Enw: Ben Burggraaf

Swydd: Pennaeth Ynni

Maes Busnes: Y Tîm Ynni

Rho drosolwg o dy rôl a beth mae'n ei olygu:

"Y Pennaeth Ynni a Charbon sy'n atebol am bob agwedd ar reoli ynni a charbon yn Dŵr Cymru, gan gynnwys prynu ynni, lleihau'r defnydd o ynni, perfformiad wrth gynhyrchu ynni adnewyddadwy, integreiddio systemau ynni deallus a chydymffurfio â'r rheoliadau perthnasol o ran ynni a charbon."

Pa mor hir wyt ti wedi bod gyda Dŵr Cymru: 6 blynedd

Beth wyt ti'n ei fwynhau'r mwyaf am dy rôl?

“Rwy'n dwlu ar natur amrywiol fy rôl. Does dim dau ddiwrnod byth yr un fath wrth weithio fel rheolwr ynni yn Dŵr Cymru. Un diwrnod rwy'n gallu bod yn cyflawni archwiliadau ynni neu'n annog cydweithwyr i ddefnyddio llai o ynni, a'r diwrnod nesaf rwy'n gallu bod yn gwerthuso Cytundebau Prynu Pŵer neu'n cyflwyno diweddariad ar y strategaeth ynni i dîm gweithredol y cwmni.”

 

Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried gweithio dros Ddŵr Cymru?

“Mae Dŵr Cymru'n gwmni amrywiol iawn, sy'n tynnu ynghyd unigolion o amrywiaeth o gefndiroedd, credoau, diwylliannau, gwerthoedd a sgiliau ac ati. Mae hi'n sicr y bydd yna dîm y byddwch chi'n mwynhau bod yn rhan ohono ac sy'n gallu defnyddio eich syniadau, eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd.”