Prentis Gwasanaethau Cwsmeriaid

Fel prentis, byddwch chi’n dysgu am wasanaethau cwsmeriaid yn gyffredinol trwy weithio gyda llond llaw o’ hadrannau, er mwyn dysgu sut mae pob un yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys;

  • Cynorthwyo cwsmeriaid gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli (fel y cyfryngau cymdeithasol, ffôn, e-bost).  
  • Mynychu hyfforddiant ar y safle gyda darparydd rydyn ni’n ymddiried ynddo. 
  • Y cyfle i gyflawni amrywiaeth o leoliadau mewn gwahanol rannau o’n busnes ‘Adwerthu’.
  • Digonedd o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol.

 

Bydd hyn yn rhoi cyfle arbennig i chi weld sut mae ein Hyb Cwsmeriaid yn gweithio, yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu eich gyrfa, ac yn eich cynorthwyo i ennill diploma mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro. 

 

Lleolir y rôl ar safle Linea yn Llaneirwg, Caerdydd. Hyd y rhaglen fydd 2 flynedd. Ar gyfer y rôl hon bydd angen o leiaf 2 TGAU (neu gymwysterau cyfatebol) arnoch mewn Mathemateg a Saesneg.