Annette Mason
“Ynghyd â'r Cenhadon Cynhwysiant eraill, roeddwn i'n falch iawn o gael ymuno â'n cydweithwyr sy'n dathlu Ramadan. Er i ni ymprydio am ddiwrnod yn unig, gwnaeth i mi sylweddol faint o ymroddiad sydd ei angen, a pha mor anodd yw mynd heb ddŵr, hyd yn oed am un diwrnod.”
Trystan Lewis-Williams
"Rhoddodd ymuno â chydweithwyr i ddilyn arferion Ramadan am ddiwrnod werthfawrogiad mawr i mi o ymroddiad pobl sy'n ymarfer y ffydd Islamaidd."
Stephne Puddy
“Doeddwn i erioed wedi meddwl go iawn am yr effaith ar gydweithwyr. Ond newidiodd dydd Llun diwethaf fy mhersbectif yn llwyr. Rwy'n credu y gallwn i ymdopi â dim bwyd fwy neu lai – ond aeth dim dŵr a dim coffi'r peth i lefel arall yn llwyr. Mae ymroddiad ein cydweithwyr i'r peth bob blwyddyn yn aruthrol ac mae ganddynt fy mharch llwyr.”
Jenna Nicolle-Gaughan
“Cyn cymryd rhan yn Ramadan (am un diwrnod yn unig), doeddwn i ddim wir wedi ystyried pa mor anodd y mae hi i Fwslemiaid roi'r gorau i fwyd yn ystod oriau golau dydd am fis cyfan. Ond y peth anoddaf i fi oedd peidio ag yfed dŵr neu goffi. Mae gen i barch mawr am ymroddiad y mae'n ei gymryd i wneud hyn, ac yn y dyfodol byddaf i'n gwneud mwy o ymdrech i ofyn i gydweithwyr.