Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Ar 8 Mawrth, ynghyd â gweddill y byd, rydyn ni'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021. Y thema eleni yw 'Menywod fel arweinwyr: Cyflawni dyfodol cyfartal mewn byd o COVID-19.’

I nodi'r achlysur, fe siaradon ni ag Imogen Brown, Pennaeth Dosbarthu Gwasanaethau Dŵr. Mae Imogen wedi gweithio'i ffordd i fyny yn Dŵr Cymru, ac erbyn hyn mae'n rheoli adran â dros 300 o bobl. Fe siaradon ni â hi am sut gyrhaeddodd hi'r pwynt yma, sut mae Covid-19 wedi effeithio ar fenywod sy'n gweithio, a'i gobeithion ar gyfer dyfodol y diwydiant dŵr.

Rwyt ti wedi gweithio dy ffordd i fyny i swydd uwch mewn sector sydd wedi cael ei ddominyddu gan ddynion yn draddodiadol. Beth wyt ti'n meddwl sydd y tu ôl i dy lwyddiant?

Rwy'n credu taw'r peth pwysicaf yw gwneud swydd rwyt ti'n ei garu - os oes gen ti ddiddordeb gwirioneddol yn dy waith, ac yn bwysicach na dim, y bobl rwyt ti'n gweithio gyda nhw, fe fyddi di'n siŵr o ragori. Syrfëwr meintiau oeddwn i yn fy ngyrfa flaenorol - mae gen i obsesiwn gydag adeiladu ac eiddo erioed - ac mae gyrfa ym maes y cyfleustodau, yn enwedig ym maes gweithrediadau dŵr lle nad oes dau ddiwrnod byth yr un fath, yn cadw pethau'n ddiddorol!! 

Rydw i wedi bod mor ffodus cael gweithio dros Ddŵr Cymru dros y naw mlynedd diwethaf – mae'r sefydliad wedi rhoi'r cyfleoedd gorau y gallwn fod wedi gofyn amdanynt i mi ddatblygu, ac mae yna bobl wych yn y busnes sydd wedi gosod esiampl i mi ac wedi fy ysbrydoli. Dyma fy mhedwaredd rôl ers i mi ymuno â'r busnes fel Rheolwr Prosiect yn y tîm Cyflawni Cyfalaf, ac mae cadw pethau'n ffres wedi fy ysbrydoli i herio beth y gallaf ei gyflawni.

Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i fenyw sydd ar gychwyn ei gyrfa nawr, neu sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant gyrfa efallai? 

Bydd yn hyderus. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn frwydr i mi, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n rhywbeth sydd wedi fy nal yn ôl yn fy ngyrfa ar adegau. Mae'n gallu bod yn anodd rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu ddychwelyd yn dilyn cyfnod o'r gweithle – ond cadwa’r ffydd ynot ti dy un, a bydd gan eraill ffydd ynot ti hefyd. Hefyd, gwna'n siŵr dy fod ti'n dod i nabod y bobl sy'n gweithio gyda ti – ymgynefina â'r busnes, dy rôl ac unrhyw gyfleoedd datblygu sy'n codi ar hyd y ffordd. Rwyt ti'n treulio rhan helaeth o'r wythnos yn y gwaith, felly gwna'r mwyaf ohono a'i fwynhau!

Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth bobl sy'n meddwl nad yw gwireddu cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle'n flaenoriaeth ar hyn o bryd? 

Rwy'n credu taw'r ffordd o fod y gorau y gallwch chi fod fel sefydliad yw cynrychioli'ch sylfaen o gwsmeriaid a'r gymdeithas ar led.  Mae hi'n bwysig iawn fod gan bawb hawliau, cyfrifoldebau a chyfleoedd cyfartal – does yna ddim lle ar gyfer unrhyw fath o wahaniaethu.  

Mae llwyth o waith ymchwil yn awgrymu bod amryw o fentrau (fel adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, absenoldebau â thâl i rieni, cwotas ac esiamplau o fenywod mewn swyddi uwch) yn helpu menywod i gael swyddi uwch mewn sefydliadau. Beth fyddet ti'n hoffi gweld mwy ohono mewn gweithleoedd? 

Hoffwn weld parhad o'r hyn rydyn ni wedi ei weld yn ystod Covid-19 gyda'r gymdeithas yn sylweddoli bod gweithwyr yn rhieni ac yn ofalwyr hefyd – a bod angen gweithio'n hyblyg weithiau fel y gall pobl gyflawni eu holl gyfrifoldebau. Mae hi'n sicr yn teimlo fel bod mwy o ddealltwriaeth yn gyffredinol ar hyn o bryd. 

Fel rhiant a ddaeth nôl i'r gwaith pan oedd fy mhlant yn 6 mis oed, roedd gen i deimladau o euogrwydd – am fod yn y gwaith pan ddylwn i fod wedi bod gartref gyda fy mhlant, neu am orfod cymryd amser o'r gwaith i fod gyda'r plant pan oedden nhw'n sâl.   Rwy'n credu bod pobl yn derbyn bod modd gwneud y ddau beth y dyddiau hyn, ac rwy'n credu y bydd hyn wir yn helpu i ddenu menywod i rolau uwch os gallwn gynnal y ddealltwriaeth yna.  

Mae llawer o adroddiadau'n dweud fod Covid-19 wedi taro menywod sy'n gweithio'n arbennig o galed, gyda menywod hŷn yn benodol yn fwy tebygol o golli eu swyddi, a gyda llawer o fenywod yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o'r cyfrifoldebau gofal plant a'r cyfrifoldebau gofalu eraill. Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i fenywod mewn sefyllfa o'r fath, a sut gall sefydliadau helpu i gynorthwyo eu gweithwyr benywaidd yn ystod y cyfnod hwn? 

Rwy'n credu bod Covid-19 wedi taro pawb, ac mae llawer o bobl yn teimlo'r straen o gylch addysgu yn y cartref a gofalu am berthnasau, ac yn arbennig dros fisoedd y gaeaf pan mae'n teimlo bod y cyfan yn ddiddiwedd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cael adegau pan fo pethau'n ein llethu ni, ond yn wahanol i lawer o sefydliadau eraill, rydyn ni wedi bod yn ffodus nad ydym wedi gorfod wynebu diswyddiadau yma.

Ar lefel bersonol, rwy'n credu taw fy nghyngor i fyddai siarad â'r teulu, rhannu'r tasgau (os oes rhywun i'w rhannu â nhw!) a pheidio ag ofni gadael i bobl wybod pan fo pethau'n mynd yn ormod – gall cymryd seibiant, hyd yn oed am gwpwl o oriau, roi cyfle i ti gael dy draed odanot ti. O safbwynt y gweithle, rwy'n credu taw dyna'r union beth y mae Dŵr Cymru wedi ei wneud – bod yn hyblyg ac yn gefnogol i'w holl weithwyr, deall fod sefyllfa pawb yn wahanol, a rhoi eu ffydd yn eu cydweithwyr i wneud y peth iawn o ran gweithio o bell.  

Sut wyt ti'n credu y byddwn ni'n gwybod bod menywod wedi gwireddu cydraddoldeb yn y gweithle?

Rwy'n credu y byddwn wedi gwireddu cydraddoldeb pan fo pawb yn y swydd y maent am ei gwneud, ac nad yw pobl yn 'synnu' pwy sy'n cyflawni pa rôl.  

Er ein bod ni wedi cymryd camau breision dros y degawdau diwethaf, mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli yn y sector dŵr, ac yn arbennig mewn swyddi uwch. Sut olwg wyt ti'n meddwl y bydd yna ar y diwydiant dŵr ymhen 30 mlynedd?

Yn ystod y 9 mlynedd ers i mi fod yn Dŵr Cymru, rydw wedi gweld nifer fawr o fenywod yn ymuno â'r busnes ac yn gwneud yn rhyfeddol o dda.  Fel y dywedais i, mae yna esiamplau bendigedig o fenywod yn y Tîm Gweithredol, sy'n beth hyfryd i'w weld. Rydw i wedi meddwl am hyn o'r blaen, ac yn pendroni weithiau ai mater o ddiffyg diddordeb mewn rolau yn y sector dŵr gan fenywod yw hi, yn hytrach na diffyg cyfleoedd.  Dydw i ddim yn credu fod pobl sydd heb weithio yn y diwydiant dŵr yn gweld pa mor werth chweil a chyffrous y gall y gwaith fod – efallai dim ond mater o'i werthu'n well i ddenu rhagor o fenywod gwych yw hi. Ymhen 30 mlynedd, byddai'n anhygoel gweld gweithle mwy amrywiol yn gyffredinol, sydd wir yn cynrychioli'r boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu.