Technegydd Cynhyrchu dan Hyfforddiant

Elfen allweddol o’r rôl fydd gweithredu ein gweithfeydd trin a’r gorsafoedd pwmpio cysylltiedig yn ôl y gofynion iechyd a diogelwch. 

 

Yn rhan o’ch datblygiad, bydd eich hyfforddiant yn cynnwys dysgu’n ymarferol ac ar sail theori. Bydd gofyn i’r hyfforddeion gwblhau rhaglen hyfedredd a gyflwynir gan ein timau hyfforddi. 

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu

 

  • Sut i reoli cemegolion a lefelau stoc a deunyddiau traul eraill trwy reoli systemau prynu.
  • Cyflwyno, goruchwylio a rheoli contractwyr allanol sy’n cyflawni gwaith cynnal-a-chadw ar ein hoffer.
  • Cynllunio gwaith gyda’n goruchwylwyr wrth sicrhau nad ydym ni’n amharu ar ein gwasanaethau i gwsmeriaid.

 

Hyd y rhaglen fydd 18 mis. Ar gyfer y rôl hon, bydd arnoch angen o leiaf 2 TGAU (neu gymwysterau cyfatebol), yn ddelfrydol mewn Mathemateg a Saesneg.