Prentis Arolygu Meintiau

Byddwch chi’n cydweithio’n agos â’ch rheolwr llinell er mwyn helpu gyda gweinyddiaeth fasnachol, riportio a pherfformiad mewn perthynas â Rhaglen Cyflawni DCWW.

Ymhlith pethau eraill, bydd y gwaith yn cynnwys;

  • Helpu gyda thasgau pob dydd sy’n ymwneud â chyflawni prosiectau gan ddangos y gallu i weithio heb oruchwyliaeth ar adegau. 
  • Mynychu safleoedd adeiladu i gyflawni asesiad o’r gwaith a gyflawnwyd. 
  • Paratoi a dilysu costau targed ac amcangyfrifon o gyllidebau.
  • Helpu i weinyddu contractau a phecynnau gwaith, gan gynnwys cyflawni asesiadau interim, ardystio a rheoli newid.
  • Helpu i reoli newid yn unol â’r contract, gan gynnwys cynhyrchu a chyflwyno Dyfynbrisiau ar gyfer Digwyddiadau sy’n denu Iawndal, a chynnal rhestrau gwerth manwl.
  • Defnyddio’ch gwybodaeth am systemau i gynhyrchu adroddiadau rheolaidd ar gyllid.
  • Helpu i gynhyrchu dogfennau tendro.
  • Helpu i reoli risg a gwerth lle bo hynny’n berthnasol. 

 

Hyd y rhaglen fydd 5 mlynedd. I ymgeisio ar gyfer y rôl yma, rhaid i chi fod â chymhwyster Lefel 2 derbyniol mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU gradd C/4 neu’n uwch, a Llwyddiant mewn Sgiliau Swyddogaethol. Rhaid hefyd i chi fod ag un o’r cymwysterau a’r graddau canlynol: Safon Uwch (o leiaf un B a dwy C) neu Ddiploma Estynedig BTEC (o leiaf Clod Uwch, Clod, Clod) neu HND.