Gweithredwr Carthffosiaeth Dan Hyfforddiant

Bydd y swydd yn delio ag ymateb cychwynnol ein cwsmeriaid i ddigwyddiadau carthffosiaeth ar draws ardal weithredu’r busnes. Bydd gofyn i chi gyflawni’r holl dasgau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol ar gyfer ein holl gwsmeriaid. Bydd gofyn i chi gyflawni’r gweithrediadau canlynol (ymhlith eraill, esiamplau yn unig sydd yma).

Mae’r esiamplau’n cynnwys:

  • Ymateb i ddigwyddiadau y mae ein cwsmeriaid yn eu riportio i ni, a helpu i  chwistrellu / clirio tagfeydd a darparu adborth manwl ar y camau a gymerwyd.
  • Archwilio rhwydweithiau carthffosiaeth (gan gynnwys cysylltiadau â Charthffosydd).
  • Cyflawni arolygon i ganfod lleoliad carthffosydd.
  • Chwistrellu / Fflysio / Clirio’r Llaid o Garthffosydd / Gweithio ar eich Pen eich Hun.
  • Cyflawni gwaith Cynnal-a-chadw Cynlluniedig ac Ymatebol ar Asedau.
  • Cydgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid.
  • Cofnodi unrhyw gamau a gymerir mewn perthynas â digwyddiadau yn y systemau rheoli gwaith yn fanwl ac yn amserol.
  • Dysgu i weithredu ac asesu cyflwr asedau gan ddefnyddio offer CCTV.
  • Glanhau’r ardal ar ôl digwyddiad o lifogydd.

 

Hyd y rhaglen fydd 18 mis. Ar gyfer y rôl hon, bydd arnoch angen o leiaf 2 TGAU (neu gymwysterau cyfatebol), yn ddelfrydol mewn Mathemateg a Saesneg.