Enw: Willow Smallbone

Swydd: Rheolwr Data a Dadansoddeg (Gwyddorau Data)

Ym mha faes o'r busnes wyt ti'n gweithio: Gwasanaethau Gweithredol y Tîm Data Rho drosolwg o dy rôl a beth mae'n ei olygu Rwy'n arwain y Tîm Gwyddorau Data i gyflawni prosiectau sy'n darparu offer i lywio penderfyniadau Dŵr Cymru er mwyn helpu’r busnes i wneud penderfyniadau mwy gwybodus sy'n seiliedig ar ddata.

Ers faint wyt ti wedi bod yn gweithio yma? 2.5 o flynyddoedd

Beth wyt ti'n ei fwynhau'r mwyaf am dy rôl?

Yr amrywiaeth, mae'r Tîm Gwyddorau Data'n gweithio gyda holl feysydd y busnes. Mae'r prosiectau y mae'r tîm yn eu cyflawni'n cyd-fynd â gwahanol Fesuriadau o Lwyddiant, mae hyn yn golygu bod pob prosiect yn wahanol, rydych chi’n gweithio gyda thîm gwahanol i gyflawni gwahanol sialensiau busnes, gan ddefnyddio techneg dadansoddi wahanol ac ychwanegu gwahanol fanteision at y busnes, ond oll â'r un nod o wella'r gwasanaeth ar gyfer ein cwsmeriaid. Mae'r arbenigwyr pwnc rydyn ni'n cydweithio â nhw bob amser yn gyfeillgar ac yn barod i'n haddysgu ni rhagor am eu gwahanol feysydd busnes er mwyn sicrhau bod y prosiect a gyflawnwn yn ddefnyddadwy ac yn ychwanegu manteision at y busnes.

 

Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried gweithio dros Ddŵr Cymru?

Mae llwyth o gyfleoedd i chi os ydych chi'n dangos bod diddordeb gennych a'ch bod yn awyddus i ddysgu - rydw i wedi cael llwyth o gymorth.