Arolygydd Rheoli Pwysedd

Dyddiad: 12 Tach 2026

Lleoliad: Abertawe, Cymru, GB, sa65bq

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  9521                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau
Cwmpas Cyflog £28,065.00 -£31,887.00 
Lleoliad Clydach
Dyddiad cau ceisiadau 
Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026 - 23:59

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Rheoli, cynnal a chadw, a dadansoddiad hydrolig o gynlluniau rheoli pwysedd a dyfeisiau rheoli Dŵr Cymru o fewn y meysydd gweithredol perthnasol; gan sicrhau bod asedau Rheoli Pwysedd yn cael eu hoptimeiddio i gyflawni'r arbedion gorau posibl o ran gollyngiadau a galw, wrth gynnal cyflenwad cyson a dibynadwy i'n cwsmeriaid. Bydd hyn yn cynnwys:

 

  • Ymchwilio i ardaloedd rheoli pwysedd a datblygu atebion i wella perfformiad y rhwydwaith.
  • Cefnogi gweithgareddau gwasanaethu PRV er mwyn lleihau'r risg o afliwiad a phwysau gwael i gwsmeriaid.
  • Cynnal data perfformiad pwysedd a gollyngiadau, metrigau adrodd, a chronfeydd data.
  • Sicrhau bod gwybodaeth am reoli pwysedd a chofnodion GIS yn gywir ac yn gyfredol.
  • Dadansoddi digwyddiadau rhwydwaith, cynnal modelu hydrolig a chynhyrchu adroddiadau technegol sy'n cynnwys argymhellion.
  • Monitro, cynnal a gwneud y gorau o offer rheoli pwysedd a chynlluniau rheoli pwysedd.
  • Cynllunio a chydlynu rhaglenni gwasanaethu, gweithgareddau cynnal a chadw, asesiadau risg ac adolygiadau perfformiad.
  • Cefnogi dylunio a chyflawni prosiectau newydd phrosiectau gwella ar draws y rhwydwaith.
  • Cydweithredu â thimau gweithredol ac adrannau eraill i leihau'r effaith ar gwsmeriaid, cyflawni targedau a sicrhau cydymffurfiaeth.
  • Darparu cymorth technegol yn ystod digwyddiadau rhwydwaith, cymryd rhan mewn trefniadau ar alwad, a chyflawni gofynion busnes ychwanegol yn ôl yr angen

Amdanoch chi

  • Addysg hyd at lefel BEng/HND/HNC mewn pwnc peirianneg, neu brofiad sy'n berthnasol i'r diwydiant
  • Yn meddu ar drwydded yrru gyfredol, lawn
  • Yn frwdfrydig dros roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd
  • Yn meddu ar wybodaeth ymarferol dda o becyn Microsoft
  • Y gallu i ddatblygu cydberthnasau gwaith cadarnhaol ar draws y sefydliad
  • Y gallu i gyfathrebu â chyrff allanol a mewnol mewn perthynas â chynlluniau a gweithgareddau rheoli pwysedd
  • Yn un o’r tîm sy'n deall pwysigrwydd cymryd perchnogaeth a bod yn atebol
  • Yn gallu dangos y gallu technegol i nodi problemau rhwydwaith a rhoi gwelliannau ar waith
  • Yn gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol, gan roi sylw i fanylion ac o dan bwysau

Werth ei wybod

  • Oriau gwaith y swydd hon yw 8am - 4pm.
  • Mae'r swydd hon yn amodol ar gymryd rhan yn y Rota Dosbarthu Wrth Gefn.
  • Mae'r rôl yn ddarostyngedig i Gytundeb Amser Gwaith Cynlluniedig DCWW.
  • Darperir fan DCWW gyda'r swydd hon.
  • Darperir yr holl hyfforddiant perthnasol.

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:


    • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
    • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
    • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
    • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
    • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
    • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
    • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
    • Cynllun beicio i'r gwaith
    • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
    • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
    • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
    • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
    • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. 


Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.


Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cae

Pwy ydyn ni

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.


Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.


Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.


Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.