Cynorthwyydd Manwerthu/ Caffi

Dyddiad: 2 Awst 2026

Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, cf140bb

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  8641                                                                             
Math o Waith Achlysurol
Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso
Cwmpas Cyflog £12.00 -£14.00 

Lleoliad

Dyddiad cau ceisiadau 

Llanishen

17 Awst 2026 (23:59) 

Pwy ydyn ni

 

Agorodd ein safle Atyniad Ymwelwyr yn Llys-faen a Llanisien yn 2023, yng ngogledd Caerdydd, ac mae ar agor drwy gydol y flwyddyn! Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw un sy'n dymuno ymuno â Dŵr Cymru. Mae'r safle yn ymfalchïo yn yr adeilad Atyniad Ymwelwyr o'r radd flaenaf gyda bwyty ar gyfer 150, balconi gyda golygfeydd dros y ddwy gronfa ddŵr, ystafelloedd newid grŵp a chiwbicl, gweithgareddau tir a dŵr, man addysgu, cuddfannau ac ynysoedd adar, ystafelloedd cyfarfod a Chaffi Carlam.

 

 

…Dewch i ymuno â'n tîm a gweithio yn yr hafan werdd / las hon sydd lai na 5 milltir o ganol dinas Caerdydd. Eisiau gweld mwy?  Ewch yma: https://lisvane-llanishen.com/cy/

 

 

Yr hyn y byddwch chi'n gyfrifol amdano

 

Byddwch yn ymuno â'n tîm gwych ac yn y rôl hon byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau, gan gynnwys:

 

  • Gwasanaethu cwsmeriaid a gweini byrddau
  • Gweithredu'r til, taliadau ag arian parod a cherdyn
  • Sicrhau bod gwasanaeth cwrtais a chyfeillgar yn cael ei ddarparu i bob cwsmer
  • Ymdrechu i ddatblygu a gwella'r profiad i gwsmeriaid a gynigir
  • Arddangos eitemau bwyd ac ailgyflenwi'r cownter
  • Sicrhau bod y byrddau a’r holl fannau yn cael eu cadw'n lân a’u bod ar gael i gwsmeriaid
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol gan y Rheolwr Arlwyo i ddiwallu anghenion y busnes

 

Amdanoch chi

 

 

  • Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ag agwedd gadarnhaol, sy’n gyfeillgar, yn gallu gweithio ar eu liwt eu hunain, ac sy'n angerddol am weithio gyda'r cyhoedd!

 

  • Darperir hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl hon, ond os oes gennych unrhyw brofiad o weithio yn y diwydiant gwasanaeth bwyd neu fanwerthu, byddai hynny'n fuddiol.

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: 

 

  • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) 
  • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn 
  • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr 
  • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim 
  • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd 
  • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir 
  • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr 
  • Cynllun beicio i'r gwaith 
  • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru 
  • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle 
  • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein 
  • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos 
  • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.  

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. 

 

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. 

 

 

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.