Dadansoddwr Adrodd Amgylcheddol
Dyddiad: 28 Hyd 2026
Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF3 0LT
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9447 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Gweithrediadau |
| Cwmpas Cyflog | £34,566.00 -£40,821.00 |
| Lleoliad | South East Hub |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Adrodd ar lygredd rheoliadol
Cymryd cyfrifoldeb am y broses adrodd ar lygredd reoliadol o’r dechrau i’r diwedd yn y rhanbarth a neilltuwyd;
Adolygu a sicrhau digwyddiadau llygredd, hunan-adroddiadau thystiolaeth atodol i sicrhau cydymffurfiad â gofynion rheoliadol gweithdrefnau mewnol.
Sicrhau bod terfynau amser adrodd a rhwymedigaethau rheoliadol yn cael eu bodloni, gan uwchgyfeirio risgiau yn ôl y gofyn.
Cynnal trosolwg o ddigwyddiadau llygredd, gan adrodd cyfeintiau ac adrodd statws ar draws y rhanbarth.
2. Adrodd Cynllun Gweithredu ar Ddigwyddiadau (IAP)
Gweithredu fel yr unigolyn sy’n gyfrifol yn rhanbarthol am gylch oes cynllun gweithredu ar ddigwyddiadau llygredd, o nodi’r digwyddiad hyd at ei gloi.
Cydgysylltu mewnbwn gan dimau gweithredu, rheoli asedau ac arbenigol i ddatblygu camau cywiro cadarn.
Olrhain gweithredoedd hyd at eu cwblhau, gan gynnal amlygrwydd amlwg o ran cynnydd, dibyniaethau, oediadau a risgiau.
Herio gweithredoedd sy’n hwyr a gweithio gyda thimau cyfrifol i sicrhau datrysiad prydlon.
Rhoi sicrwydd bod camau y cytunwyd arnynt wedi cael eu cwblhau a bod tystiolaeth ohonynt cyn eu cloi.
3.Cyswllt rheoliadol a rheoli rhanddeiliaid
Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt rhanbarthol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru/Asiantaeth yr Amgylchedd ar faterion adrodd ar lygredd.
Cydgysylltu ymatebion i ymholiadau Cyfoeth Naturiol Cymru, ceisiadau am wybodaeth a chamau dilynol.
Datblygu a chynnal perthynas waith effeithiol gyda chynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid mewnol.
Cynorthwyo cyfarfodydd rheoliadol, archwiliadau ac arolygon yn ymwneud â gweithgareddau adrodd ar lygredd.
Sicrhau bod cyfathrebiad rheoliadol yn cael ei reoli’n gyson ac yn broffesiynol.
4.Gwybodaeth am berfformiad ac adrodd arno
Dadansoddi data adrodd ar lygredd, tueddiadau a themâu sy’n dod i’r amlwg i nodi risgiau a chyfleoedd i wella.
Llunio adroddiadau ar berfformiad rheolaidd a dangosfyrddau ar gyfer yr Arweinydd Perfformiad Gwastraff a rhanddeiliaid busnes ehangach.
Cynnal trosolwg o berfformiad adrodd rhanbarthol yn erbyn gofynion rheoliadol a dangosyddion perfformiad allweddol mewnol;
Nodi achosion rheolaidd o ddigwyddiadau llygredd a chynorthwyo gweithgareddau dadansoddi gwraidd y broblem.
5.Llywodraethiant, cydymffurfiad a sicrwydd
Sicrhau bod gweithgareddau adrodd ar lygredd yn cydymffurfio â gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru/Asiantaeth yr Amgylchedd, polisïau’r cwmni a disgwyliadau rheoliadol.
Cynnal archwiliadau sicrwydd ac ansawdd ar adrodd ar ddigwyddiadau a chofnodion IAP.
Cynorthwyo archwiliadau mewnol ac allanol trwy gadw cofnodion adrodd cywir y gellir eu harchwilio.
Hyrwyddo safonau uchel o ansawdd data a chysondeb adrodd ar draws y rhanbarth.
6.Gwelliant parhaus
Nodi cyfleoedd i wella prosesau adrodd ar lygredd i, systemau a ffyrdd o weithio.
Cynorthwyo cyflwyniad dulliau adrodd newydd, awtomeiddio a gwelliannau system.
Rhannu gwersi a ddysgwyd, arfer gorau sy’n dod i’r amlwg a diweddariadau rheoliadol yn y tîm Ymateb a Rheoli Gweithrediad (ORC).
Cyfrannu at ddatblygiad canllawiau, deunyddiau hyfforddi a chyfathrebiad yn ymwneud ag adrodd ar lygredd.
Amdanoch chi
Mae’r canlynol yn ofynion hanfodol ar gyfer recriwtio i’r swydd:
Cymwysterau
NVQ Lefel 2 neu uwch, BTEC, Tystysgrif Genedlaethol Gyffredin/Uwch
Profiad
O leiaf 2 flynedd o brofiad mewn swydd dechnegol, ddadansoddol neu wneud penderfyniadau, yn y sector dŵr glân a/neu wastraff yn ddelfrydol.[DF1.1]
Gwybodaeth a Sgiliau
· Gwybodaeth dda am weithrediadau, asedau a rhwydweithiau dŵr glân a/neu wastraff, ag ymwybyddiaeth o risgiau llygredd a phrosesau ymateb gweithredol.
· Ymwybyddiaeth o ofynion adrodd ar lygredd a chyrff rheoleiddio, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd.
· Llythrennedd TG a systemau da, â’r gallu i weithio’n hyderus ar draws systemau gweithredu ac adrodd lluosog.
· Gallu i asesu, gwerthuso a blaenoriaethu canlyniadau posibl i gynorthwyo penderfyniadau gweithredu ac adrodd prydlon.
· Gallu i ddadansoddi llawer iawn o ddata cymhleth, nodi tueddiadau ac eithriadau, a dod i gasgliadau credadwy.
· Sylw cryf i fanylion, â dull trwyadl o sicrhau ansawdd data, tystiolaeth ac adrodd rheoliadol cywir.
· Sgiliau trefnu da, â’r gallu i weithio o dan bwysau, rheoli blaenoriaethau sy’n cystadlu a bodloni terfynau amser adrodd.
· Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar eglur, â’r gallu i weithio’n broffesiynol gyda rhanddeiliaid mewnol, gan gynnwys timau gweithredu ac arbenigwyr a rhanddeiliaid allanol
· Dull cydweithredol a hyblyg, â’r gallu i ddarparu gwydnwch a thrawsgyflenwi ar draws gweithgareddau adrodd ar lygredd.
Werth ei wybod
If you would like any further information on this role, please contact Olivia.Saunders@dwrcymru.com
Bydd gofyniad i fod ar rota wrth gefn
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.