Goruchwyliwr Bwyd

Dyddiad: 3 Medi 2026

Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF14 0LT

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  9166                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso
Cwmpas Cyflog £27,000.00

Lleoliad

Dyddiad cau ceisiadau   

Llanishen

23:59 on 13/09/2026

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Goruchwylio'r gegin ac ardaloedd y bwyty i sicrhau bod gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn cael ei ddarparu wrth gynnal amgylchedd diogel i bawb ar y safle.

 

Bydd hyn yn cynnwys:

 

  1. Ar gyfartaledd, un diwrnod yr wythnos yn cyflawni rôl Rheolwr ar Ddyletswydd, gan gymryd cyfrifoldeb arweiniol am gydlynu'r safle cyfan fel rhan o'r tîm rheoli ehangach.
  2. Sicrhau Iechyd a Diogelwch pob ymwelydd a chwsmer sy'n defnyddio cyfleusterau'r safle, cymryd rhan weithredol yn monitro diogelwch, sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu diweddaru’n gyson a bod pob ddigwyddiad a damwain yn cael eu cofnodi yn unol â gweithdrefnau gofynnol y cwmni.
  3. Ynghyd â Rheolwr y Caffi, archebu holl gyflenwadau’r gegin a stoc i'w hailwerthu gan gyflenwyr cymeradwy.
  4. Cynnal a chadw holl gofnodion HACCP y gegin bob amser ac i'r safon ofynnol.
  5. Paratoi, coginio a gweini prydau bwyd, rheoli a threfnu cynorthwywyr y caffi i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel.
  6. Goruchwylio a nodi anghenion hyfforddi cydweithwyr i sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
  7. Ymdrechu i ddatblygu a gwella'r hyn a gynigir fel profiad i gwsmeriaid. Sicrhau bod y gwasanaeth yn y caffi a'r ardal fanwerthu yn cael ei gynnal i safon uchel.
  8. Ymgysylltu â chwsmeriaid fel llysgennad Dŵr Cymru.
  9. Cynnal y safonau hylendid bwyd, cynnal a chadw a thaclusrwydd ardaloedd y gegin,  y bwyty a manwerthu yn unol â gweithdrefnau diogelwch bwyd Dŵr Cymru.
  10. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol gan Reolwr y Caffi i ddiwallu anghenion y busnes.
  11. Cefnogi recriwtio cynorthwywyr Caffi a rheoli gofynion hyfforddi a sefydlu pob cydweithiwr newydd i sicrhau eu bod yn gwbl gymwys i weithio yn y ganolfan ac oddi yno.
  12. Dirprwyo ar gyfer Rheolwr y Caffi yn ei absenoldeb.
  13. Ymgymryd â rôl Rheolwr Dyletswydd ar amserlen gydag aelodau allweddol eraill o'r tîm.

Amdanoch chi

Gofynion Hanfodol

 

Cymwysterau

  • Ardystiad Hylendid Bwyd Lefel 3 cyfredol o leiaf
  • Gwiriad DBS boddhaol

 


Profiad

  • Profiad iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd ymarferol mewn atyniad ymwelwyr neu amgylchedd manwerthu neu fwyty
  • Profiad o weithio gyda'r cyhoedd

 

Gwybodaeth a Sgiliau

  • Yn frwdfrydig dros roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd
  • Profiad goruchwylio ym maes arlwyo a cheginau masnachol
  • Gwybodaeth neu arbenigedd gwasanaeth cwsmeriaid ym maes arlwyo/manwerthu
  • Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun
  • Ymwybyddiaeth fasnachol
  • Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg

 

Werth ei wybod

Gwybodaeth Ychwanegol

 

  • Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl.
  • Bydd angen gwiriad DBS boddhaol cyn yr apwyntiad.
  • Oherwydd natur ein diwydiant, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus ddarparu geirda boddhaol, cwblhau asesiad meddygol ar ôl y cynnig, a chael gwiriad cofnodion troseddol Datgeliad Sylfaenol. Efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol neu gymeradwyaeth diogelwch ar rai rolau. Darperir rhagor o fanylion ar ôl i chi derbyn cynnig.

Buddion

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.