Parcmon Profiad Ymwelwyr

Dyddiad: 27 Hyd 2026

Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF14

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Job Requisition Number                              9459                                                                              
Work Type Parhaol
Job Function Hamdden a Chroeso
Salary Range £25,949.00 perm (annualised hours) 

Base

Closing Date

Llanishen 

Lisvane & Llanishen Reservoirs (Cardiff)

23:59 on 7th November 2026

 

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Byddwch yn ymuno â thîm gwych o gydweithwyr yn y Ganolfan Ymwelwyr. Fel Parcmon Profiad Ymwelwyr, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynnal y safonau uchel o gyflwyniad safle a phrofiad ymwelwyr. Mae eich cyfrifoldebau yn cynnwys sicrhau glendid, diogelwch, ac ymddangosiad cyffredinol y safle, gan greu amgylchedd sy’n adlewyrchu ansawdd a gwerthoedd Dŵr Cymru.

 

Byddwch yn gweithredu fel presenoldeb amlwg ar draws y safle, gan fonitro gweithgarwch ymwelwyr i gynnal diogelwch a rheolau’r safle, ac yn mynd i’r afael â phroblemau yn brydlon ac yn broffesiynol. Trwy ymgysylltu rhagweithiol, byddwch yn darparu gwasanaeth gwresog, gwybodus a chynorthwyol i ymwelwyr, bob amser yn hyrwyddo delwedd gadarnhaol o Dŵr Cymru.

 

Mae agweddau allweddol ar y swydd yn cynnwys:

 

  • Cyflwyniad a Glendid y Safle: Cynnal a chadw’r tir, cyfleusterau, ac amwynderau i safonau rhagorol, gan sicrhau amgylchedd croesawgar a diogel.
  • Plismona a Diogelwch: Monitro ymddygiad ymwelwyr, gorfodi rheoliadau’r safle, ac ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau i ddiogelu pobl ac eiddo.
  • Rhyngweithio â Gwesteion: Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol trwy gynorthwyo ymwelwyr, ateb ymholiadau, a rhannu gwybodaeth am y safle a’i gyffiniau.
  • Cydweithrediad Tîm: Gweithio’n agos gyda chydweithwyr i sicrhau gweithrediadau didrafferth a chyfrannu at fentrau gwelliant parhaus.

 

I lwyddo, bydd angen sgiliau cyfathrebu cryf, dull rhagweithiol a’r gallu i gadw’n ddigynnwrf ac yn broffesiynol ym mhob sefyllfa arnoch.

Amdanoch chi

Rydych yn angerddol am ddarparu profiadau ymwelwyr rhagorol ac yn ymfalchïo mewn cynnal safonau uchel ar draws ein safleoedd. Rydych yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored ac fel rhan o dîm, â dull rhagweithiol o ddatrys problemau a ffordd gyfeillgar a phroffesiynol wrth ymgysylltu â’r cyhoedd. Rydych yn hyblyg, yn barod i gynorthwyo gwahanol adrannau, ac yn gyfforddus yn ymdrin â dyletswyddau yn ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid a thasgau ymarferol fel cynnal a chadw’r tir a chyfleusterau.

 

Sgiliau a Phrofiad Hanfodol

 

Bydd gennych:

  • Sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymgysylltu ag ymwelwyr yn gadarnhaol.
  • Agwedd ymarferol at gynnal a chadw cyfleusterau mewnol ac allanol, gan gynnwys toiledau a chawodydd.
  • Ymwybyddiaeth o arferion iechyd a diogelwch a hyder wrth orfodi rheolau’r safle.
  • Gallu i weithio’n hyblyg, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
  • Parodrwydd i gynorthwyo ar draws adrannau fel caffi/arlwyo, gweithgareddau, a safle gwersylla.
  • Profiad o gynnal a chadw tir, glanhau, neu atgyweiriadau sylfaenol (dymunol).

 

  • Bydd archwiliad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol cyn y dyddiad cychwyn.

Werth ei wybod

 

  • Contract parhaol, 37 awr yr wythnos (yn cynnwys penwythnosau)
  • Bydd yr amser dechrau cynharaf am 08:00am a’r amser gorffen hwyraf am 20:30pm (shifftiau 8 awr yn nodweddiadol, yn amodol ar anghenion gweithredu) 8am-4pm NEU 12.30pm-8.30pm
  • Rota 6 wythnos ymlaen llaw

 

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag: Owain.Manuel@dwrcymru.com

Buddion

Mae gennym fuddion gwych, gan gynnwys: 
 
    · Gostyngiadau staff yn ein hatyniadau ymwelwyr 
    · Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi a gwisg yn cael ei ddarparu
    · Man gweithio hyfryd

 

Tra hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw sydd wir yn poeni am ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd, ac am ofalu am ein hamgylchedd hardd.


Sylwer y gallem gau’r swydd hon yn gynharach os oes angen. Gallem hefyd ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn ddibynnol ar ddiddordeb.


Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cadarnhad meddygol ar ôl cynnig, ac archwiliad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol arnom ar gyfer pob cyflogai newydd sy’n ymuno â’r busnes. Ar gyfer rhai swyddi, efallai y bydd angen archwiliadau ychwanegol a chadarnhad diogelwch, ac mae’r cynnig hwn yn amodol ar fodloni’r holl archwiliadau. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r archwiliadau hyn mewn e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn.

Pwy ydyn ni

Agorodd ein safle Atyniad Ymwelwyr yn Llys-faen a Llanisien yn 2023, yng ngogledd Caerdydd, ac mae ar agor drwy’r flwyddyn! Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw un a hoffai ymuno â Dŵr Cymru. Mae’r safle yn brolio adeilad Atyniad Ymwelwyr o’r radd flaenaf â bwyty sydd â lle i 150, balconi â golygfeydd dros y ddwy gronfa ddŵr, ystafelloedd newid grŵp a chiwbicl, gweithgareddau ar y tir a’r dŵr, man dysgu addysgol, cuddfannau ac ynysoedd adar, ystafelloedd cyfarfod a chaffi Grab & Go. 
 

…Dewch i ymuno â’n tîm a gweithio yn y werddon werdd / las hon llai na 5 milltir o ganol dinas Caerdydd. Hoffech chi weld mwy?  Cymerwch olwg yma: https://lisvane-llanishen.com/

 

 

Dŵr Cymru Cyf, a limited company registered in Wales No. 2366777. Registered office: Linea, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff CF3 0LT

© Dŵr Cymru Cyf 2019.