Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes

Dyddiad: 6 Awst 2026

Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF3 0LT

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  8895                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cwmpas Cyflog £55,924.00 -£63,515.00 
Lleoliad South East Hub
Dyddiad cau ceisiadau 
Dydd Sul, 16 Awst 2026 - 23:59

 

Yr hyn y byddwch chi’n gyfrifol amdano

 

Mae’r rôl yn cynnwys atebolrwydd o’r dechrau i’r diwedd am wasanaethau i gwsmeriaid dibreswyl ar draws cylch bywyd llawn y cwsmer, gan gynnwys delio â chysylltiadau, sefydlu cyfrifon, bilio, gollyngiadau a datrys anghydfodau, gwasanaethau elifiant masnach, a dulliau teg ac effeithiol o adennill dyled.

 

  • Bod yn atebol am gyflawni’r Mesur Profiad Cwsmeriaid Busnes, gan gynnwys deall a dadansoddi’r ffactorau sy’n ysgogi perfformiad, trosi dealltwriaeth yn flaenoriaethau clir, a gweithredu mentrau wedi’u targedu er mwyn sicrhau’r sgorau uchaf posibl a gwella canlyniadau cwsmeriaid.
  • Darparu’r holl wasanaethau sydd ar gael i gwsmeriaid dibreswyl, gan gynnwys cysylltiadau i mewn, sefydlu cyfrifon, bilio, ymholiadau ynghylch mesuryddion a gollyngiadau, datrys anghydfodau, gwasanaethau elifiant masnach a dulliau o adennill dyled heb ei thalu.
    Hyrwyddo anghenion cwsmeriaid busnes ar draws y gweithrediad manwerthu, gan sicrhau eu bod yn cael eu trin mewn ffordd deg, dryloyw a chymesur, a bod ystyriaethau cwsmeriaid yn cael eu hymwreiddio mewn polisïau, prosesau, teithiau digidol, dulliau cyfathrebu, bilio a gweithgarwch BPO.
  • Cynllunio ac amserlennu adnoddau o ddydd i ddydd er mwyn cwrdd â thargedau gwasanaeth, ansawdd, rheoleiddio a chyllideb, gan sicrhau gwydnwch ac ymatebolrwydd ar draws pob sianel gyswllt.
  • Darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad clir i’r adran, gan ymwreiddio arferion rheoli pobl cryf gan gynnwys cynllunio’r gweithlu, datblygu galluoedd, rheoli perfformiad, lles a chydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod cymaint o ymgysylltu ac ymddygiadau cadarnhaol â phosibl.
  • Ysgogi gwelliant parhaus ar draws gwasanaethau dibreswyl, gan optimeiddio arferion gwaith trwy arloesi, awtomeiddio a mabwysiadu arfer gorau i gefnogi gweledigaethau’r busnes a gwella profiad cwsmeriaid.
  • Datblygu a chynnal gweithgarwch dadansoddi ac adrodd perfformiad cadarn, gan ddarparu mewnwelediad clir i effeithiolrwydd gwasanaethau, canlyniadau cwsmeriaid, perfformiad ariannol a risg, er mwyn llywio’r broses o wneud penderfyniadau a phennu blaenoriaethau. 
  • Nodi, llunio a chyflawni mentrau a phrosiectau newid busnes, gan sicrhau bod buddion yn cael eu diffinio’n glir, yn cael eu cyflawni o fewn amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt, ac yn cael eu hymwreiddio’n effeithiol mewn prosesau gweithredol.
  • Sicrhau bod strategaethau cyfathrebu effeithiol ar waith gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan alluogi dealltwriaeth gyffredin o flaenoriaethau, disgwyliadau o ran perfformiad a chyflawniadau yn erbyn targedau busnes
  • Creu amgylchedd tîm cynhwysol a chefnogol lle mae cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso a lle y gallant ddatblygu eu sgiliau a chyrraedd eu potensial.
  • Cynnal y safonau uchaf o ran iechyd, diogelwch a lles, gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau’r cwmni a meithrin diwylliant diogelwch cryf ar draws yr adran.
  • Meithrin a chynnal perthnasoedd effeithiol â rhanddeiliaid mewnol a thrydydd partïon, gan sicrhau bod gweledigaethau cyffredin yn cael eu deall, eu cefnogi a’u cyflawni trwy lywodraethu a chyfathrebu cryf.
  • Llywio’r gwaith o gyflawni’r strategaeth adfer dyledion dibreswyl ar y cyd â’r Rheolwr Strategaeth Dyled, gan gydbwyso cyflawni DPAau casglu arian parod â thrin cwsmeriaid yn deg a sicrhau canlyniadau cadarnhaol o ran profiad cwsmeriaid.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion esblygol y busnes.

 

Amdanoch chi

 

  • Gradd neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol ym maes gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli busnes neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
  • Byddai cymwysterau arwain neu reoli yn fanteisiol.
  • Profiad sylweddol o gymryd perchnogaeth o deithiau cwsmeriaid busnes o'r diwedd i'r diwedd a’u gwella, o gynefino a bilio hyd at ddatrys anghydfodau, casgliadau a chau cyfrifon.
  • Profiad o fod yn gyfrifol am weithgareddau rheoli risg ariannol a chredyd, gan gydbwyso fforddiadwyedd, tegwch cwsmeriaid a chanlyniadau masnachol o fewn fframwaith rheoleiddiedig.
  • Profiad cryf o ddefnyddio data perfformiad, mewnwelediad cwsmeriaid a dadansoddiad o achosion sylfaenol i lywio’r broses o wneud penderfyniadau, blaenoriaethu buddsoddiad ac ysgogi gwelliant parhaus.
  • Profiad llwyddiannus o ysgogi profiad cwsmeriaid a chanlyniadau perfformiad o fewn amgylcheddau B2B, gan gynnwys cyflwyno gwelliannau mesuradwy yn erbyn mesurau ac ymrwymiadau perfformiad diffiniedig (e.e. BCEW / PCLs).
  • Profiad amlwg o weithredu mewn amgylchedd rheoleiddiedig, gan sicrhau bod strategaeth, polisi a chyflawni gweithredol wedi’u halinio’n llawn â disgwyliadau a rhwymedigaethau rheoleiddio.
  • Hanes cryf o reoli ac arwain newid, gan sicrhau cefnogaeth a momentwm ar draws timau amlddisgyblaethol ac uwch grŵp o randdeiliaid. 
  • Dealltwriaeth gref o deithiau cwsmeriaid sy’n gysylltiedig â bilio, casgliadau a mesuryddion, prosesau talu a rheoli cyfrifon.
  • Cyfathrebwr effeithiol iawn sy’n meddu ar allu cryf i ddylanwadu a rhwydweithio; sy’n gredadwy wrth ymgysylltu ag uwch arweinwyr, rheoleiddwyr, partneriaid a rhanddeiliaid allanol.
  • Gallu profedig i arwain pan fydd galw cymhleth a mawr ymhlith cwsmeriaid, gan gynnal uniondeb, empathi, rheolaeth a chydymffurfiaeth bob amser.
  • Gallu arwain pobl yn dda, gyda phrofiad o adeiladu timau sy’n perfformio i lefel uchel trwy gyfeiriad clir, hyfforddiant, rheoli perfformiad a datblygu talent.
  • Sgiliau trin cwsmeriaid datblygedig, yn enwedig mewn sgyrsiau ariannol sensitif a chymhleth, gan gydbwyso empathi â gwneud penderfyniadau cadarn.

 

Da i’w wybod

 

  • Bydd angen cymryd rhan yn Silver Standby
  • Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â Nichola.Walden@dwrcymru.co

 

 

Buddion

 

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

 

    • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
    • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
    • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
    • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
    • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
    • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
    • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
    • Cynllun beicio i'r gwaith
    • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
    • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
    • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
    • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
    • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

 

 

Pwy ydyn ni 

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.