GGoruchwyliwr Gwasanaeth Bwyd
Dyddiad: 7 Hyd 2026
Lleoliad: Rhaeadr Gwy, Cymru, GB, ld6 5hp
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9345 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Hamdden a Chroeso |
| Cwmpas Cyflog | £27,100.00 -£27,100.00 |
| Lleoliad | Elan Valley |
Pwy ydyn ni
Ond oeddech chi'n gwybod bod gennym hefyd safle atyniad i ymwelwyr yng Nghwm Elan sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae gan y safle gaffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy'n cynnig gweithgareddau ar y tir ac yn y dŵr. Dewch i ymuno â'n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o'r safleoedd harddaf ym Mhowys. Eisiau gweld mwy? Cliciwch yma i edrych ar ein gwefan www.elanvalley.org.uk
Mae Cwm Elan ym Mhowys yng nghanolbarth Cymru, ychydig oriau yn unig o Birmingham a Chaerdydd. Gellir cyrraedd yno’n hawdd o dref gyfagos Rhaeadr Gwy lle ceir gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus da.
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Goruchwylio'r gegin yn bennaf, a chefnogi goruchwyliwr blaen y tŷ i sicrhau bod bwyd o ansawdd rhagorol yn cael ei ddarparu gan gynnal amgylchedd diogel i bawb ar y safle. Bydd hyn yn cynnwys:
- Paratoi, coginio a gweini prydau, rheoli a threfnu cynorthwywyr cegin i ddarparu bwyd o ansawdd uchel
- Sicrhau diogelwch yr holl bobl ar y safle
- Archebu'r holl gyflenwadau cegin a nwyddau i'w hailwerthu gan gyflenwyr dynodedig
- Cynnal yr holl gofnodion HACCP ar gyfer y gegin bob amser ac i'r safon ofynnol
- Goruchwylio a nodi anghenion hyfforddi cydweithwyr i sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
- Gwneud ymdrech i ddatblygu a gwella'r hyn a gynigir fel profiad i gwsmeriaid
- Sicrhau bod y gwasanaeth yn y caffi a'r ardal fanwerthu yn cael ei gynnal i safon uchel
- Cynnal safonau hylendid bwyd, cynnal a chadw a thacluso y gegin, y mannau manwerthu a’r bwyty yn unol â gweithdrefnau diogelwch bwyd Dŵr Cymru
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes
- Mae hon yn rôl weithredol iawn.
Amdanoch chi
- Rydym yn chwilio am berson creadigol a chadarnhaol i ymuno â'n tîm!
- Dealltwriaeth dda o MS Office a phrofiad o ddefnyddio systemau man gwerthu
- Gwiriad DBS boddhaol
- Profiad ymarferol o iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd mewn atyniad i ymwelwyr neu amgylchedd manwerthu neu fwyty
- Profiad o weithio gyda'r cyhoedd
- Yn frwdfrydig am roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd
- Profiad o wasanaeth cwsmeriaid Arlwyo/Manwerthu/Lletygarwch
- Y gallu i weithio ar eich pen eich hun
Werth ei wybod
|
|
- Darperir gwisg
- Tîm cyfeillgar mewn busnes newydd gyda chyfleoedd cyffrous i ddatblygu gyrfa
- 37 awr dros 5 diwrnod allan o 7
- Patrymau shifft arferol: naill ai 8.30am-4.30pm neu 10am-6.30pm (ystyrir hyblygrwydd)
- I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Victoria.Hadnett@dwrcymru.com
Buddion
Mae gennym fanteision gwych, gan gynnwys:
· Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau ymwelwyr
· Darperir hyfforddiant llawn a gwisg
· Lleoliad gweithio hardd
· Oriau gweithio hyblyg
Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ein hamgylchedd hardd yn bwysig iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.