Darllenydd Mesurydd
Dyddiad: 24 Awst 2026
Lleoliad: Trefynwy, Cymru, GB, NP25
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9121 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Gweithrediadau |
| Cwmpas Cyflog | £26,200.00 -£28,883.00 |
| Lleoliad | South East Hub |
| Dyddiad cau ceisiadau |
Dydd Sul, 30 Awst 2026 - 23:59 |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Casglu'r holl ddata darllen mesuryddion yn unol ag amserlen darllen mesuryddion yr adran Gweithrediadau Maes i sicrhau bod y cwsmer yn derbyn bil cywir ac amserol ac i osgoi pobl yn cysylltu a chwynion diangen. Ymgymryd ag unrhyw ymweliadau maes ad hoc y gofynnwyd iddynt, naill ai i ddatgysylltu'r cyflenwad dŵr neu i gael rhagor o wybodaeth fel sy'n ofynnol gan y Cwmni i ddatrys ymholiad neu anghydfod cwsmeriaid. Bydd hyn yn cynnwys:
- Casglu data mesuryddion dŵr o fesuryddion dŵr cwsmeriaid, gan ddefnyddio'r uned llaw, o fewn amserlenni penodol fel y cyfarwyddir gan amserlen gylchol darlleniadau mesuryddion
- Derbyn a throsglwyddo data o’r mesuryddion trwy uned llaw
- Nodi darlleniadau mesurydd dŵr annisgwyl, megis proffil defnydd dŵr uwch neu is, a chofnodi'r wybodaeth ychwanegol hon ar y ddyfais llaw yn unol â'r canllawiau Darllen Mesuryddion Awtomataidd
- Rhoi rheswm dros unrhyw fesurydd dŵr na ellid ei ddarllen o fewn yr amserlen, yn unol â'r canllawiau Darllen Mesuryddion Awtomataidd
- Gosod yr holl fesuryddion dŵr mewn trefn llwybr gerdded sy'n optimeiddio nifer y mesuryddion dŵr a ddarllenir
- Cynnal gweithgaredd darllen mesuryddion nad yw'n gylchol yn unol â cheisiadau archebu system awtomataidd ac o fewn yr amserlenni penodol
- Datgysylltu'r cyflenwad dŵr mewn eiddo masnachol yn ôl cyfarwyddyd yr Adran Casgliadau Masnachol
- Cynnal gwiriadau cyflenwi ar gyflenwadau dŵr sydd wedi'u datgysylltu am beidio â thalu ffioedd dŵr, yn unol â chanllawiau ac amserlenni'r cwmni, ac uwch-gyfeirio unrhyw sefyllfa i'r Tîm Casgliadau Masnachol am gyfarwyddyd pellach ar unwaith, os yw'r cyflenwad dŵr wedi’i droi yn ôl ymlaen
- Mabwysiadu arfer gorau ar berfformiad gweithredol i helpu i gefnogi cyflawni dangosyddion perfformiad allweddol yr adran ar gyfer darllen mesuryddion DG8
- Sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol gyda'n partneriaid gweithredol ar draws rhannau eraill o'r busnes i sicrhau bod amcanion yn cael eu cefnogi a'u cyflawni
- Cynnal asesiad risg deinamig yn rhagweithiol ar bob ymweliad maes i sicrhau amgylchedd gwaith diogel cyn ymgymryd â phob gweithgaredd
- Adrodd am bob methiant a pheryglon a allai achosi niwed posibl, yn unol â phroses a gweithdrefnau iechyd a diogelwch y Cwmni
- Sicrhau bod cerbyd y cwmni yn cael ei wirio'n rheolaidd yn unol â pholisi'r cwmni a bod unrhyw ddiffygion yn y cerbyd yn cael eu cyfeirio ar unwaith yn unol â chanllawiau trafnidiaeth
- Mewngofnodi i'r system Gweithio ar eich pen wich hun, bob amser, yn unol â chanllawiau'r cwmni
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes
Amdanoch chi
- Trwydded yrru lawn
- Dangos profiad o ddatrys mater ar y tro cyntaf er mwyn gallu cefnogi mesurau perfformiad mewnol a nodau cwmni
- Yn frwdfrydig am roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd
Werth ei wybod
- 37 awr yr wythnos. Mae gweithio hyblyg ar gael rhwng 06:00 a 20:00, o ddydd Llun i ddydd Sul, a bydd yn cael ei gytuno ar sail unigol. Er mwyn sicrhau digon o weithwyr gweithredol, rhaid gweithio o leiaf 4 awr ar bob diwrnod o'r wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener).
- Trwydded yrru lawn yn y DU heb unrhyw waharddiadau nac euogfarnau gyrru difrifol. Rhaid datgan unrhyw bwyntiau cosb cyfredol a byddant yn cael eu hasesu fel rhan o'r broses recriwtio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun sgrinio cyn cyflogaeth, gan gynnwys gwiriadau cyflogaeth, hunaniaeth, hawl i weithio a chyfeirnod credyd (gan gynnwys Experian), cyn i unrhyw benodiad gael ei gadarnhau.
- Darperir fan Cwmni
- Mae hon yn rôl gorfforol heriol sy'n cynnwys llawer o gerdded ar dir amrywiol ac ym mhob tywydd. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gorfforol heini a gallu cyflawni'r dyletswyddau hyn yn ddiogel ac yn effeithiol.
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.