Syrfëwr Meintiau
Dyddiad: 17 Tach 2026
Lleoliad: Abertawe, Cymru, GB, SA6 5BQ
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9526 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Rheoli Costau |
| Cwmpas Cyflog | £47,492.00 -£54,618.00 |
| Lleoliad | Clydach |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Syrfëwr Meintiau (Cynnal a Chadw)
Eisiau defnyddio eich profiad masnachol a’ch profiad o gontractau NEC mewn rôl lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws ein rhwydwaith dŵr gwastraff? Ymunwch â Dŵr Cymru i’n helpu i ddarparu contractau effeithiol sy’n cynnig gwerth am arian ac sy’n cefnogi gwasanaeth hanfodol i’n cwsmeriaid a’n cymunedau.
Yr hyn y byddwch yn gyfrifol amdano
Fel ein Syrfëwr Meintiau (Cynnal a Chadw), byddwch yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o reoli ein contractau Rhwydwaith Dŵr Gwastraff yn fasnachol, gan weithio’n agos gyda thimau gweithredol, darparwyr gwasanaethau a chydweithwyr ar draws y busnes.
Bydd eich cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
- Cefnogi’r gwaith o gyflawni a gwella contractau’r Rhwydwaith Dŵr Gwastraff yn barhaus, gan sicrhau eu bod yn bodloni gofynion statudol, rheoleiddiol, ariannol a llywodraethu.
- Darparu cyngor a chymorth masnachol i dimau gweithredol, gan helpu i nodi cyfleoedd, datrys ymholiadau a sefydlu arferion gorau.
- Gwerthuso taliadau a chostau tasgau, codi tystysgrifau talu a chefnogi’r gwaith o asesu a gweinyddu digwyddiadau digolledu.
- Datblygu a chynnal modelau ariannol ar gyfer gweithgareddau Trosglwyddo Carthffosydd Preifat a Draeniau Ochrol (PST), gan sicrhau bod ffynonellau data ategol yn gywir ac wedi’u dogfennu’n glir.
- Monitro costau a gweithgarwch contractau yn erbyn rhagolygon, gan gefnogi croniadau misol cywir, adroddiadau a dyrannu costau.
- Olrhain dyddiadau contractiol allweddol, taliadau a mesurau perfformiad er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau contractiol yn cael eu bodloni.
- Cynnal ymweliadau safle pan fo angen i wirio gwaith sydd wedi’i gwblhau a chefnogi cofnodi gwybodaeth yn gywir drwy SAP a systemau perthnasol eraill.
- Cynhyrchu a chyflwyno gwybodaeth gywir am gontractau a chyllid, gan gynnwys adroddiadau misol ar gostau, lefelau gweithgarwch a Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA), gan gefnogi diwylliant o welliant parhaus ac arferion gorau.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau masnachol a dadansoddol cryf, sy’n gallu gweithio’n hyderus gyda gwybodaeth ariannol a chytundebol a meithrin perthnasoedd effeithiol gyda thimau gweithredol a darparwyr gwasanaethau.
Bydd gennych:
- Brofiad o weithio gyda chontractau NEC.
- Byddai profiad o gontractau Rhwydwaith Dŵr Gwastraff yn fuddiol, er nad yw hyn yn hanfodol.
- Sgiliau dadansoddi cryf, gyda’r gallu i ddehongli a chyflwyno gwybodaeth ariannol i gefnogi penderfyniadau busnes effeithiol.
- Sgiliau cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid da, gyda’r hyder i gyflwyno gwybodaeth i dimau rheoli.
- Y gallu i ddehongli a chymhwyso gofynion statudol a rheoleiddiol perthnasol.
- Sgiliau TG cryf, yn enwedig Excel, Word a PowerPoint.
- Trwydded yrru lawn a’r gallu i deithio’n rheolaidd yn unol â gofynion y busnes.
Werth ei wybod
- Lleoliad: Gall y rôl hon gael ei lleoli naill ai yn Hwb y De-ddwyrain neu Hwb y De-orllewin, a fydd yn cael ei drafod yn ystod y broses gyfweld yn seiliedig ar eich lleoliad presennol.
- Patrwm gweithio: Gweithio hybrid, gydag o leiaf dri diwrnod yr wythnos yn cael eu treulio ar y safle neu yn y swyddfa a dau ddiwrnod yn gweithio o bell.
- Teithio: Bydd angen teithio’n rheolaidd i safleoedd yn y rhanbarth y cytunwyd arno. Gellir hawlio treuliau milltiroedd busnes a chostau tanwydd yn unol â pholisi’r cwmni.
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
- Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
- Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
- Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
- Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
- Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
- Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
- Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
- Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
- Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
- Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
- Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan!
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Ydych chi'n meddwl mewn ffordd fasnachol? Allwch chi reoli portffolio o brosiectau cyfalaf cymhleth?
Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yn ein tîm peirianneg a byddwch chi'n gwneud y canlynol:
- darparu gwasanaeth proffesiynol, masnachol a rheoli costau mewn sawl prosiect
- rhoi cymorth a chyngor i dîm o reolwyr prosiectau
- paratoi archebion gwaith
- dilysu a chytuno ar werthoedd contractau a chostau targed gyda chontractwyr fframweithiau
- cynnal dilysiadau misol ar gyfer gwaith a gwblhawyd
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.