Dylunydd Graffeg
Dyddiad: 10 Tach 2026
Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF30LT
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9500 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Adnoddau Dynol a Chyfathrebu |
| Cwmpas Cyflog | £34,566.00 -£40,821.00 |
| Lleoliad | South East Hub |
| Dydduad Cau |
Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026 - 23:59 |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Mae’r Crëwr Cynnwys – Dylunydd Graffeg yn chwarae rôl allweddol wrth gynhyrchu cynnwys gweledol o ansawdd uchel sy’n cefnogi ymgyrchoedd, cyfathrebiadau a blaenoriaethau strategol Dŵr Cymru. Gan weithio’n agos gydag Ymgyrchoedd, Digidol, Brand a’r timau cyfathrebu a busnes ehangach, byddwch yn trosi briffiau creadigol a themâu technegol neu weithredol yn gynnwys clir, hygyrch a diddorol ar draws sianeli digidol, print a mewnol.
Byddwch yn sicrhau bod popeth rydych chi’n ei gynhyrchu yn bodloni ein brand, yn hygyrch ac yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, tra’n gweithio’n ddiogel ac yn gydweithredol yn unol â dyddiadau cau tynn. Gan ddefnyddio mewnwelediad a dadansoddeg, byddwch yn mireinio eich dull gweithredu’n barhaus i sicrhau bod ein cynnwys yn effeithiol, yn gynhwysol ac yn berthnasol i’r cynulleidfaoedd rydym yn eu gwasanaethu.
Cyfrifoldebau allweddol y rôl:
- Gweithio ochr yn ochr â’r Swyddog Print a Chynnwys ac arweinwyr ymgyrchoedd a chyfathrebiadau ehangach i ddeall briffiau creadigol a’u trosi’n gynnwys dylunio cymhellol
- Arwain y gwaith o greu asedau dylunio graffeg o ddatblygu’r cysyniad i’r gwaith celf terfynol, gan gynnwys cynllun, teipograffeg, cyrchu darluniau a ffotograffau, a thriniaethau gweledol sy’n gyson â’n brand.
- Gweithio ar y cyd ag Ymgyrchoedd, Digidol, Brand, timau cyfathrebu mewnol a meysydd busnes ehangach i gynhyrchu cynnwys sy’n dyrchafu negeseuon allweddol ac yn gwella addysg a dealltwriaeth cwsmeriaid
- Creu cysyniadau dylunio creadigol a gwaith celf sy’n cyd-fynd â thôn y brand, sy’n addas i’r gynulleidfa ac sy’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, gan ofyn am gyngor pan fydd angen.
- Gweithio ar brosiectau mawr sy’n hanfodol i’r busnes gan gynnwys dylunio’r Adroddiad Blynyddol a chyfrifon, biliau blynyddol, cyflwyniadau ac ati.
- Helpu i gynnal amserlen gynhyrchu ar gyfer cyflawni asedau, sicrhau bod dyddiadau cau yn cael eu bodloni’n gyson a helpu i reoli partneriaid cynhyrchu allanol a gweithwyr llawrydd os bydd angen, gan sicrhau bod asedau yn cael eu cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.
- Cynnal safonau creadigol a golygyddol uchel, gan sicrhau cywirdeb yn erbyn y briff a sicrhau bod cynnwys yn cefnogi eglurder ac ymgysylltiad ac yn adrodd stori’r brand.
- Rheoli archif o ddeunyddiau, gan gyfeirio’n gywir at yr holl waith, gan gynnwys delweddau ac allbwn dylunio.
- Cyfrannu at adrodd a gwerthuso.
- Darparu cymorth cyfathrebu ar gyfer rota ar alwad ac yn ystod digwyddiadau gweithredol aur, arian ac efydd, lle bo angen.
Amdanoch chi
Cymwysterau
- Wedi’ch addysgu i lefel gradd neu brofiad cyfatebol o weithio ar lefel debyg mewn maes arbenigol a/neu’n meddu ar gymhwyster cyfathrebu proffesiynol neu gymhwyster cyfatebol.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu mewn sefydliad/diwydiant sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Profiad
- Profiad o weithio fel gweithiwr celf / dylunydd graffeg mewn tîm cyfathrebu prysur.
- Hyfedredd wrth ddefnyddio Adobe Creative Cloud (Illustrator, Photoshop, InDesign yn hanfodol; XD/After Effects yn ddymunol).
- Y gallu i ddylunio ar gyfer fformatau amrywiol (print A4, baneri gwe, templedi cymdeithasol, carwselau, posteri, ffeithluniau).
- Profiad o gynhyrchu cynnwys ar gyfer fformatau traddodiadol a digidol.
- Y gallu i reoli sawl prosiect ar yr un pryd a chwrdd â dyddiadau cau.
- Profiad o ddefnyddio ffotograffiaeth mewn amgylcheddau deinamig, byd go iawn (e.e. ymweliadau safle, saethu yn yr awyr agored).
- Y gallu i gydweithio’n agos â rhanddeiliaid nad ydynt yn greadigol i drosi pynciau technegol neu weithredol yn ddelweddau hygyrch.
- Dealltwriaeth o ofynion asedau ymgyrchoedd a’r gallu i ddarparu atebion creadigol.
- Profiad a dealltwriaeth o gynnwys ac ymgyrchoedd.
- Profiad o weithio i ddyddiadau cau tynn ac o fewn y gyllideb.
- Profiad o ddeall canllawiau brand gan gynnwys hunaniaeth weledol a thôn llais.
- Dealltwriaeth o ofynion y Gymraeg.
Gwybodaeth a sgiliau
- Portffolio sy’n dangos cynnwys sydd wedi’i greu ar gyfer gwahanol sianeli.
- Y gallu i feithrin perthnasoedd ar bob lefel ar draws y sefydliad.
- Gallu profedig i gyflawni canlyniadau yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
- Y gallu i nodi cyfleoedd hyfforddi ac i ddefnyddio sgiliau i helpu i ddatblygu cydweithwyr.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i fynegi materion cymhleth mewn ffordd gryno.
Werth ei wybod
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.