Rheolwr Buddsoddiad a Pherfformiad Asedau
Dyddiad: 11 Tach 2026
Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF3 0LT
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9435 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Gweithrediadau |
| Cwmpas Cyflog | £55,000.00 - Competitive DOE |
| Lleoliad | South East Hub |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Crynodeb
Mae hon yn swydd uwch effaith uchel â chyfrifoldeb perchennog asedau am dros 800 o weithfeydd trin dŵr gwastraff a rhaglen wella gwerth tua £730 miliwn yn cwmpasu triniaeth, bioadnoddau, twf, gwydnwch a chydymffurfiad. Byddwch yn rheoli tîm amlddisgyblaeth sy’n ganolog i rai o heriau buddsoddiad a pherfformiad mwyaf Dŵr Cymru, gan lunio sut rydym yn gwella perfformiad, cydymffurfiad ac iechyd asedau nawr tra’n dylanwadu ar y strategaeth fuddsoddi hirdymor trwy PR29 a thu hwnt.
Fel ein Rheolwr Buddsoddiad a Pherfformiad Asedau, byddwch yn chwarae rhan allweddol o ran llunio buddsoddiad ar draws ein portffolio asedau gweithfeydd trin dŵr gwastraff, gan wneud yn siŵr bod ein penderfyniadau yn cyflawni’r canlyniadau iawn i’n cwsmeriaid, yr amgylchedd a pherfformiad hirdymor ein hasedau.
Yn atebol i’r Pennaeth Rheoli Asedau, byddwch yn arwain gwaith cynllunio buddsoddiad mewn asedau a gwneud penderfyniadau ar draws y portffolio. Byddwch yn gwneud yn siŵr bod anghenion buddsoddi yn cael eu nodi, eu blaenoriaethu a’u llywodraethu yn effeithiol i gynorthwyo cydymffurfiad rheoliadol, i wella perfformiad ac i sicrhau gwerth am arian.
Fel uwch reolwr, byddwch hefyd yn gweithredu fel y cynrychiolydd perchennog asedau ar gyfer eich portffolio, gan weithio’n agos â chydweithwyr ar draws meysydd Cynllunio, Peirianneg, Cynnal a Chadw, Darpariaeth Cyfalaf a Gweithrediadau i wneud yn siŵr bod ein cynlluniau buddsoddi yn seiliedig ar dystiolaeth, yn fforddiadwy ac yn bosibl eu cyflawni.
Bydd eich cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
- Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a blaenoriaethu’r rhaglen buddsoddi mewn asedau, gan sicrhau bod buddsoddiad yn cefnogi targedau defnyddioldeb, rhwymedigaethau statudol, lefelau ymrwymiad perfformiad a’n Strategaeth Rheoli Asedau ehangach.
- Rheoli a datblygu tîm o Reolwyr Asedau, Arbenigwyr Perfformiad a Thechnegwyr.
- Gweithredu fel cynrychiolydd perchennog asedau ar gyfer eich portffolio, gan ddarparu cyfeiriad trwy ddatblygu atebion, arfarnu opsiynau, cymeradwyo buddsoddiadau a llywodraethiant.
- Blaenoriaethu ac argymell ymyriadau asedau yn seiliedig ar iechyd asedau, risg, perfformiad, ymrwymiadau rheoliadol a chanlyniadau cwsmeriaid.
- Rheoli cyllidebau rhaglenni o fewn y portffolio ehangach, gan sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi wedi’u seilio ar dystiolaeth dda ac yn fforddiadwy.
- Gweithredu fel noddwr i gynlluniau cyfalaf, gan lunio papurau buddsoddi o ansawdd uchel a chefnogi llywodraethiant effeithiol trwy grwpiau llywio rhaglenni.
- Goruchwylio rheolaeth o gylch oes asedau ar draws y portffolio, gan gydbwyso perfformiad, risg a chost i gefnogi ein strategaeth rheoli asedau hirdymor.
- Gweithio’n agos gyda’r adrannau Gweithrediadau a Pheirianneg i ddilysu anghenion buddsoddi, i ddeall cyfyngiadau gweithredu ac i ddatblygu argymhellion ymarferol.
- Cydweithredu â’r adrannau Cynllunio a Chyllid i wneud yn siŵr bod penderfyniadau buddsoddi yn cyd-fynd â’n cynlluniau hirdymor.
- Datblygu a monitro mesurau perfformiad sy’n cryfhau gwybodaeth am asedau, ansad buddsoddiad a hyder yn y ddarpariaeth.
- Arwain adolygiadau gwireddu buddion i asesu pa un a yw buddsoddiad a gweithgarwch lliniaru wedi sicrhau’r canlyniadau a fwriadwyd a defnyddio’r wybodaeth hon i hysbysu buddsoddiad yn y dyfodol.
- Nodi meysydd o berfformiad asedau gwael neu sy’n dirywio a gweithio gyda chydweithwyr gweithredu i ddatblygu cynlluniau buddsoddi a lliniaru cymesur.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am weithiwr rheoli asedau neu fuddsoddi mewn seilwaith proffesiynol profiadol a all gyfuno gwybodaeth dechnegol gref gyda sgiliau arweinyddiaeth sydd eu hangen i reoli pobl, i ddylanwadu ar ddewisiadau buddsoddi ac i weithio’n effeithiol gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid.
Byddwch yn gyfforddus yn defnyddio gwybodaeth am iechyd, perfformiad a risg asedau i ddatblygu argymhellion buddsoddi seiliedig ar dystiolaeth a byddwch yn deall sut mae angen i ddewisiadau buddsoddi gydbwyso perfformiad, gofynion rheoliadol, fforddiadwyedd ac anghenion asedau hirdymor.
Cymwysterau hanfodol
- Gradd neu brofiad cyfatebol mewn Peirianneg, Rheoli Asedau, Gwyddor yr Amgylchedd neu ddisgyblaeth dechnegol berthnasol arall.
Profiad hanfodol
- Profiad fel uwch reolwr ym maes rheoli asedau neu fuddsoddiad mewn seilwaith mewn amgylchedd a reoleiddir.
- Profiad yn datblygu, yn blaenoriaethu ac yn llywodraethu rhaglenni buddsoddiad cyfalaf ar lefel ranbarthol neu system asedau.
- Profiad yn rhoi dulliau seiliedig ar risg ac wedi’u harwain gan brofiad ar waith o gynllunio buddsoddiad ac argymhellion.
- Dealltwriaeth gref o ddarpariaeth gwasanaeth asedau, yn enwedig ym maes Dŵr neu Ddŵr Gwastraff, fel sy’n berthnasol i’r swydd.
- Profiad yn rheoli ac yn cynorthwyo timau technegol.
- Profiad yn ymgysylltu â rhanddeiliaid uwch ac yn cyfrannu at brosesau rheoliadol a sicrwydd.
Gwybodaeth a sgiliau
- Gwybodaeth gref am reoli cylch oes asedau, cynllunio buddsoddiad a blaenoriaethu portffolio.
- Dealltwriaeth o’r ffactorau rheoliadol, perfformiad a risg sy’n effeithio ar fuddsoddiad mewn asedau yn y sector dŵr neu ddiwydiant a reoleiddir mewn ffordd debyg.
- Gallu i droi gwybodaeth am iechyd, risg a pherfformiad asedau yn argymhellion buddsoddi eglur.
- Sgiliau dadansoddol cryf, gan gynnwys arfarnu opsiynau, dadansoddi cost a budd a chyfiawnhau buddsoddiad.
- Sgiliau rheoli, cyfathrebu a dylanwadu rhagorol yng nghyswllt rhanddeiliaid.
Gwybodaeth ychwanegol am y swydd
- Cyfrifoldeb rheoli llinell: Oes
- Cyfrifol am gyllideb: Ydych
Werth ei wybod
Gofyniad posibl i fod ar gael ar sail wrth gefn.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â: Kate.Howard@dwrcymru.com a rhowch rif adnabod y swydd fel y teitl pwnc.
Buddion
Yn ogystal â chyflog sy’n gystadleuol yn y farchnad, 36 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion a gwobrau i gyflogeion, gan gynnwys:
- Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
- Cyfraniadau pensiwn cyflogwr estynedig – Cyfraniadau cyflogwr o hyd at 11%
- Gwasanaethau Broceru Morgais am ddim
- Polisïau ystyriol o deuluoedd estynedig
- Cyfleoedd i wneud cynnydd, gan gynnwys y gallu i wneud cais am hyfforddiant wedi’i ariannu a rhaglenni coetsio a mentora
- Gostyngiadau campfa a ffitrwydd yn ogystal â siopa stryd fawr
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Gostyngiad yn holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau anrhegion Dŵr Cymru
- Cynllun lesio car a lleoedd parcio ar-safle am ddim ym mhob safle
- Cynllun Arian yn Ôl Iechyd a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
- Rhaglen cymorth cyflogeion i gyflogeion a’u teulu uniongyrchol
- Gellir dod o hyd i lawer mwy ar ein gwefan.
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.