Arolygydd Dosbarthu
Dyddiad: 5 Tach 2026
Lleoliad: Caerfyrddin, Cymru, GB, SA31 2PD
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9330 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Gweithrediadau |
| Cwmpas Cyflog | £28,065.00 -£31,887.00 |
| Lleoliad | Ty Tywi |
| Dyddiad Cau | Dydd Mercher Tachwedd 2026 - 23:59 |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Cyfrannu at gamau gweithredu i ddatrys problemau Dosbarthu posibl neu wirioneddol, er mwyn achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosibl i'r cwsmer.
Bydd hyn yn cynnwys:
- Dangos parodrwydd brwd i weithio'n gyson fel rhan o dîm.
- Ymateb a gweithio ochr yn ochr â'r holl adrannau eraill yn ystod digwyddiadau Arian ac Aur.
- Sicrhau bod holl ddiweddariadau’r System Gwybodaeth Ddaearyddol yn cael eu cyflwyno i'r swyddfa System Gwybodaeth Ddaearyddol er mwyn galluogi Dŵr Cymru i gynnal gwybodaeth o ansawdd uchel.
- Sicrhau y cyrhaeddir targedau gollyngiadau dŵr Dŵr Cymru gan ddefnyddio technegau amrywiol i leihau gollyngiadau.
- Sicrhau bod holl weithdrefnau iechyd a diogelwch y cwmni yn cael eu gweithredu a'u dilyn yn briodol, gan gadw diogelwch cydweithwyr a chwsmeriaid mewn cof bob amser.
- Cysylltu'n effeithiol â chydweithwyr yn y tîm dosbarthu yn ystod gwaith arferol ac mewn argyfyngau, gan ddod o hyd i atebion ar gyfer y rhwydwaith neu ollyngiadau.
- Sicrhau bod y manylion cywir yn cael eu cofnodi ar y gwahanol systemau TG yn ddyddiol.
- Sicrhau bod arferion gweithio cywir yn cael eu dilyn ar y safle, yn ystod a thu allan i oriau gwaith.
- Cynnal archwiliad gweledol.
- Cynrychioli Dŵr Cymru drwy gydol cylch oes prosiectau, gan helpu'r partner yn ôl yr angen wrth ddatblygu'r prosiect, cynllunio, cael cymeradwyaeth a chyflawni prosesau statudol.
- Delio â sefyllfaoedd anodd o bryd i’w gilydd mewn modd cyfeillgar a phroffesiynol, wrth ymdrechu i ddod o hyd i ddatrysiad cyflym.
- Gwneud argymhellion i wella'r rhwydwaith.
- Trefnu eich amser eich hun yn effeithlon, ymdrin â gwaith arferol gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosibl, asesu blaenoriaethau o fewn eich maes gwaith a rheoli'r blaenoriaethau hynny.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion y busnes.
Amdanoch chi
Cymwysterau hanfodol. Profiad a Sgiliau
- Trwydded yrru gyfredol, lawn a dilys
- Lefel dda o brofiad o wasanaeth cwsmeriaid
- Hyddysg mewn cyfrifiadura
- Yn frwdfrydig dros roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Gwybodaeth dda am y diwydiant dŵr
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol
- Yr ysgogiad a'r uchelgais i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n cwsmeriaid
- Dealltwriaeth gadarn o becynnau meddalwedd Microsoft, gan gynnwys Excel a Word, ymhlith eraill
- Parodrwydd i weithio ar ben eich hun ac fel rhan o dîm pan fo angen
- Y gallu i adeiladu a chynnal rhwydweithiau da gydag adrannau mewnol, partneriaid y cwmni a chontractwyr
- Y gallu i weithio i derfynau amser tynn ac mewn amgylchiadau anodd, gan barhau i ddarparu gwasanaeth diduedd i'n cwsmeriaid
Werth ei wybod
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.