Hyfforddwr Gweithgareddau
Dyddiad: 9 Tach 2026
Lleoliad: Caerfyrddin, Cymru, GB, SA63 4RR
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9462 | |
| Math o Waith | Achlysurol | |
| Swyddogaeth y Swydd | Hamdden a Chroeso | |
| Cwmpas Cyflog | £13.45 yr awr | |
|
Lleoliad
|
Llys y Fran
|
Werth ei wybod
🌟 Cronfa Dalent Staff Dros Dro Tymhorol 2027
Hoffech chi ymuno â ni ar gyfer tymor 2027?
- Contract: Dros dro / dim oriau
- Hyfforddiant: Bwriedir cychwyn diwrnodau hyfforddi â thâl ym mis Ionawr 2027, gan gynnwys dau benwythnos cyn i’r tymor ddechrau yn ddelfrydol.
- Patrwm gweithio: Bydd gwaith ar gael ar draws penwythnosau a gwyliau ysgol, gan gynnwys yn ystod cyfnod y gaeaf. Gan fod hwn yn gontract dim oriau, nid yw oriau wedi’u sicrhau.
- Cronfa dalent: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â’n cronfa dalent staff dros dro tymhorol 2027, y gellir cynnig gwaith dros dro ohoni yn seiliedig ar ofynion y busnes a’r gwaith sydd ar gael.
Hoffech chi wybod mwy?
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Dylan.Fletcher@dwrcymru.com, gan gynnwys Rhif Adnabod y Swydd yn y llinell bwnc.
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Byddwch yn rhan o’n tîm Gweithgareddau, gan helpu i ddiogelu a chynorthwyo cwsmeriaid sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr, gweithgareddau ar y tir a meithrin tîm, tra’n sicrhau safon uchel o iechyd a diogelwch bob amser.
Mae ein Canolfannau Gweithgareddau ar agor 7 diwrnod yr wythnos, felly bydd y swydd yn cynnwys gweithio fin nos, penwythnosau a gwyliau banc.
Yr hyn y byddwch yn ei wneud
- Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gan gyfarfod, cyfarch a helpu pob ymwelydd i gael y mwyaf o’i ymweliad, gan gynnwys mewngofnodi cwsmeriaid, ymateb i ymholiadau am weithgareddau ac archebion a derbyn taliadau.
- Cynorthwyo yn y ddarpariaeth o weithgareddau o ansawdd uchel ar y tir a/neu ar y dŵr, gan gynnwys rhaglenni meithrin tîm, yn unol â gofynion y Corff Llywodraethu Cenedlaethol (NGB) a Dŵr Cymru.
- Cynorthwyo gyda’r broses o logi offer gweithgareddau, gan gynnwys darparu sesiynau briffio effeithiol ar ddiogelwch, a chynorthwyo cwsmeriaid sy’n defnyddio offer ar y safle.
- Gweithio’n rhagweithiol yn rhan o dîm i baratoi a chlirio cyfleusterau ar-safle, tra’n helpu i gynnal cyflwr, diogelwch a glendid offer gweithgareddau i safon gyson uchel.
- Helpu i sicrhau diogelwch pawb ar y safle, gan gynnwys cyflogeion, y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau a’r cyhoedd, gan ddilyn gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer adrodd digwyddiadau a chynnal diogelwch dŵr rhagorol.
- Cyfathrebu ag ymwelwyr mewn ffordd frwdfrydig, wybodus a chynorthwyol, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chyflwyno portread cadarnhaol ar gyfer Dŵr Cymru.
- Gweithio ochr yn ochr â’r tîm Parcmyn ar ddiogelwch a bioddiogelwch y cronfeydd dŵr, yn ogystal â chynorthwyo’r gwaith o gynnal a chadw’r safle a’i gadw’n daclus, gan gynnwys casglu sbwriel, glanhau toiledau, a chynnal a chadw adeiladau a’r safle.
- Helpu i sicrhau bod rheolau’r safle ac ymyl y dŵr yn cael eu dilyn, yn enwedig y rheol ‘dim nofio mewn cronfeydd dŵr heb ganiatâd’, amseroedd agor a chau, a threfnu ymwelwyr yn ddiogel yn ystod cyfnodau prysur.
- Gweithio ar y cyd â sefydliadau trydydd parti, gan gynnwys elusennau bywyd gwyllt a grwpiau gwirfoddolwyr, a chynorthwyo gweithgareddau cadwraeth, addysgol, mynediad cyhoeddus a hamdden, diwrnodau agored a digwyddiadau.
- Cynorthwyo’r tîm ehangach ac adrannau eraill, gan gynnwys y caffi neu’r tîm Parcmyn, fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes.
Amdanoch chi
Byddwch yn mwynhau gweithio gyda phobl a helpu ymwelwyr i gael profiad diogel, difyr a chofiadwy. Byddwch yn gyfforddus yn gweithio yn rhan o dîm, tra hefyd yn defnyddio eich menter eich hun pan fydd angen.
Profiad Hanfodol
- Profiad o weithio gyda’r cyhoedd a darparu gwasanaeth cynorthwyol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Profiad o ddilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Brwdfrydig am roi ein cwsmeriaid gyntaf bob dydd.
- Gallu gweithio’n hyderus ar eich liwt eich hun ac yn rhan o dîm.
- Dealltwriaeth o ddiogelwch dŵr.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, â’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Saesneg.
- Cyfforddus yn defnyddio TG ac yn dysgu systemau newydd. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi defnyddio ein systemau o’r blaen, byddwn yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch.
- Gonest a phroffesiynol yn eich agwedd.
- Agored i adborth, dysgu a datblygu sgiliau newydd.
Pwy ydyn ni
Buddion
Mae gennym fuddion gwych, gan gynnwys:
· Adolygiad cyflog blynyddol
· Gostyngiadau Staff ar gyfer ein hatyniadau ymwelwyr
· Rhoddir hyfforddiant llawn a darperir gwisg
· Man gweithio hyfryd
· Oriau gwaith hyblyg
Tra hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw sydd wir yn poeni am ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd, ac am ofalu am ein hamgylchedd hardd.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.