Cynghorydd Cwsmer

Date:  8 Jan 2026
Company:  DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
City:  Cardiff
Address: 

Cardiff, Wales, GB, CF3 0LT

Rhif Cais Swydd: 8317

Math o Waith: Parhaol

Swyddogaeth y Swydd: Gwasanaethau Cwsmeriaid

Cyflog: £24,617.00

Lleoliad: Canolfan De-ddwyrain

Dyddiad Cau: 23:59 ar 22/01/2026

 

Rydym yn ceisio ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg; fodd bynnag, cynhelir pob gohebiaeth a chyfweliad yn Saesneg. Gall yr hysbyseb hon gau’n gynnar, yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a dderbynnir.

Beth fyddwch chi'n gyfrifol amdano

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n canolfan gyswllt yn ein swyddfa yn rhanbarth y De-ddwyrain yng Nghaerdydd, de Cymru. Rydym yn chwilio am unigolion sy'n dangos cydnerthedd cryf ac sydd wir yn angerddol dros helpu pobl.


Gwyddom mai timau amrywiol yw’r timau mwyaf llwyddiannus. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhoi sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydym eisiau i unigolion, yn ddi-eithriad, deimlo'n hyderus, yn falch, a’u bod yn gallu dod â’u hunain cyfan i’r gwaith.

 

Mae ein tîm yn amrywiol, ond mae ein cwsmeriaid yn amrywiol hefyd, ac rydym yma i'w cefnogi pan fydd angen. Eich rôl fydd ateb ymholiadau cwsmeriaid am eu cyfrifon, ymdrin â rhai sgyrsiau heriol ynghylch biliau, taliadau, digwyddiadau gweithredol, defnydd dŵr a gollyngiadau, felly mae'n rhaid i chi fod â'r gallu i ddatrys problemau. Gallwn roi sicrwydd i chi na fydd 2 ddiwrnod yr un peth!

 

Byddwch yn:

  1. Cyswllt cyntaf i'n cwsmeriaid, gan fod yn gadarnhaol ac yn angerddol am ddatrys eu problemau.
  2. Gwrando ar gwsmeriaid a’u holi a’u cwestiynu i ddatrys ymholiad neu gŵyn ganddynt.
  3. Defnyddio’ch sgiliau meithrin perthynas i ddeall anghenion ein cwsmeriaid, gan ddangos cydymdeimlad ac amlygiad i niwed, a thrafod y ffordd orau ymlaen.
  4. Arddangos a gweithredu gwerthoedd y cwmni i'n helpu ni i gyflawni gweledigaeth ein cwmni i ennill ymddiriedaeth ein cwsmeriaid bob dydd.
  5. Cefnogi cwsmeriaid a chydweithwyr trwy sgiliau cyfathrebu rhagorol a gwaith tîm.
  6. Chwilio yn barhaus am ffyrdd o wella pethau, gan helpu i fireinio ein systemau a'n prosesau.
  7. Addysgu ein cwsmeriaid am y datrysiadau mwyaf priodol iddynt – mae gennym lawer i'w gynnig, cyngor effeithlonrwydd dŵr, neu gymorth ariannol gydag un o'n tariffau cymdeithasol.
  8. Addysgu cwsmeriaid ar ganlyniadau peidio â thalu hefyd.
  9. Bod â’r ysgogiad a’r cymhelliant i ddatrys ymholiad y cwsmer ar y cyswllt cyntaf.
  10. Gweithredu mewn amgylchedd cyflym, felly bydd angen defnyddio’ch cydnerthedd a'ch hunan-gymhelliant i sicrhau bod pob cwsmer yn cael y lefel uchaf o wasanaeth.

 

Gyda phwy y byddwch chi'n gweithio

Cwsmeriaid Dŵr Cymru, eich tîm o staff newydd, timau ehangach yn y ganolfan gyswllt ac Arweinwyr Tîm.

Amdanoch chi

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

 

Rydym eisiau i chi allu rhoi tystiolaeth o'r canlynol:

• Bod gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol – llafar ac ysgrifenedig

• Bod gennych ffordd gyfeillgar a chadarnhaol wrth siarad â chwsmeriaid

• Eich bod yn gyfforddus yn defnyddio TG – rydym yn defnyddio amrywiaeth o systemau cyfrifiadurol y byddwn yn eu dysgu i chi

• Eich bod bob amser yn onest ac yn broffesiynol

• Eich bod yn gydnerth ac yn wych am ddatrys problemau – rydym yn ymdrin â rhai sefyllfaoedd heriol

• Eich bod yn agored i adborth, gwella eich hun a dysgu sgiliau newydd.

• Eich bod yn hyderus gyda rhifau ac yn esbonio beth maen nhw'n ei olygu (e.e. egluro bil a chynlluniau talu cwsmeriaid)

• Eich bod yn rhoi sylw i fanylion ac yn cofio gwybodaeth yn dda

• Eich bod yn gallu gwneud penderfyniadau

 

Os ydych chi'n siarad Cymraeg, rhowch wybod i ni gan fod gennym adran Gymraeg ddynodedig yma yn Dŵr Cymru!

Da Gwybod

Eich cyflog blynyddol yw £24,617. Y dyddiad cychwyn ar gyfer y rôl hon yw 02 Mawrth 2026. Sylwer, cynhelir sesiwn canolfannau asesu ar 26 & 27 Mawrth 2026, y bydd angen i chi ei mynychu.


Byddwch yn cael 9 wythnos o hyfforddiant lle byddwch yn gweithio 9am-5pm. Oherwydd pa mor fanwl yw'r hyfforddiant, ni allwn awdurdodi unrhyw gyfnodau estynedig o wyliau blynyddol, felly ystyriwch hyn cyn gwneud cais am y swydd.


Ar ôl hynny byddwch yn symud i rota treigl 5 wythnos, y gellir ei drafod yn fanwl os cewch eich gwahodd i gyfweliad.


Er mwyn eich cefnogi chi orau yn eich datblygiad, byddwch yn gweithio’n llawn amser yn y swyddfa am eich 6 mis cyntaf er mwyn inni allu rhoi hyfforddiant a chefnogaeth i chi.

 

Bydd cyfle i symud i'n modiwl gweithio hybrid (o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos yn y swyddfa) ar ddiwedd eich cyfnod prawf 6 mis.


Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i gefnogi’ch cydbwysedd gwaith/bywyd. Fodd bynnag, rhaid i hyn fod yn gydnaws ag anghenion y busnes. Sylwch mai 20 awr yr wythnos yw’r nifer lleiaf o oriau yr ydym yn eu cynnig, ac nid ydym yn cynnig wythnos waith gywasgedig. Gallwn drafod unrhyw ofynion yn ystod eich cyfweliad. Sylwer, ni fydd unrhyw drefniadau gweithio hyblyg y cytunwyd arnynt yn berthnasol nes bod eich cyfnod prawf 6 mis wedi'i gwblhau.

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 33 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion a gwobrau i weithwyr, gan gynnwys:

  • Cynlluniau tâl amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd cynyddol o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
  • Yr opsiwn i brynu hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol y flwyddyn
  • Cyfraniadau pensiwn gwell gan y cyflogwr – hyd at 11% o gyfraniadau’r cyflogwr
  • Gwasanaethau brocera morgais am ddim
  • Polisïau cefnogol gwell i deuluoedd
  • Cyfleoedd datblygu, gan gynnwys y gallu i wneud cais am hyfforddiant a ariennir, yn ogystal â rhaglenni hyfforddi, mentora a chydweithio
  • Gostyngiadau campfa a ffitrwydd, yn ogystal â siopa’r stryd fawr
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith
  • Gostyngiad ar holl ganolfannau atyniadau ymwelwyr a siopau anrhegion Dŵr Cymru
  • Cynllun prydlesu ceir a pharcio ar y safle am ddim ym mhob lleoliad
  • Cynllun Arian Parod Iechyd a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
  • Rhaglen cymorth i weithwyr ar gyfer gweithwyr a’u teulu agos
  • Gellir dod o hyd i lawer mwy ar ein gwefan

Oherwydd natur y diwydiant, mae’n ofynnol i bob gweithiwr newydd sy’n ymuno â’r busnes gael geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl cynnig swydd, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofrestr troseddol.

Ar gyfer rhai rolau, gall fod angen gwiriadau ychwanegol a chaniatâd diogelwch, ac mae’r cynnig hwn yn ddarostyngedig i gwblhau’r holl wiriadau yn foddhaol. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth drwy e‑bost ynghylch sut i gwblhau’r gwiriadau hyn unwaith y byddwch wedi derbyn y cynnig.

Pwy ydym ni

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd drwy ddarparu dŵr diogel a dibynadwy, ac yn casglu a thrin dŵr gwastraff cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’n hafonydd a’n moroedd hardd.

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy’n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Cyflawnir hyn drwy fyw ein gwerthoedd craidd a dangos yr ymddygiadau craidd sy’n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a’n gwybodaeth yn hollbwysig i ni, ac felly rydym yn chwilio am bobl sy’n deall ac yn cydymffurfio â gofynion diogelwch y cwmni.

Gwyddom mai’r timau mwyaf llwyddiannus yw’r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd diwylliant Dŵr Cymru Welsh Water. Rydym am i bob unigolyn deimlo’n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith.

Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol, gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, menywod, pobl LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda’n gilydd, rydym yn parhau i adeiladu gweithle sy’n dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ac sy’n adlewyrchu pob cwsmer a wasanaethwn.

 

Yn y bôn, rydym yn gwmni sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad ac uniondeb – cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, a limited company registered in Wales No. 2366777. Registered office: Linea, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff CF3 0LT

© Dŵr Cymru Cyf 2019.