Cynorthwyydd Manwerthu/ Caffi
Dyddiad: 17 Tach 2026
Lleoliad: Dinbych, Cymru, GB, LL21 9TT
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9530 |
| Math o Waith | Achlysurol |
| Swyddogaeth y Swydd | Hamdden a Chroeso |
| Cwmpas Cyflog | £13.45 |
| Lleoliad | Llyn Brenig |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Byddwch yn ymuno â'n tîm gwych ac yn y rôl hon byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau, gan gynnwys:
- Gwasanaethu cwsmeriaid a gweini byrddau
- Gweithredu'r til, taliadau ag arian parod a cherdyn
- Sicrhau bod gwasanaeth cwrtais a chyfeillgar yn cael ei ddarparu i bob cwsmer
- Ymdrechu i ddatblygu a gwella'r profiad i gwsmeriaid a gynigir
- Arddangos eitemau bwyd ac ailgyflenwi'r cownter
- Sicrhau bod y byrddau a’r holl fannau yn cael eu cadw'n lân a’u bod ar gael i gwsmeriaid
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol gan y Rheolwr Arlwyo i ddiwallu anghenion y busnes
Amdanoch chi
- Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ag agwedd gadarnhaol, sy’n gyfeillgar, yn gallu gweithio ar eu liwt eu hunain, ac sy'n angerddol am weithio gyda'r cyhoedd!
- Darperir hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl hon, ond os oes gennych unrhyw brofiad o weithio yn y diwydiant gwasanaeth bwyd neu fanwerthu, byddai hynny'n fuddiol.
Werth ei wybod
- Mae gennym swyddi tymhorol rhan-amser ar gael.
- Mae cludiant eich hun yn hanfodol gan fod Llyn Brenig mewn lleoliad anghysbell ac nid oes gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus i’r safle.
- Bydd angen gwiriad DBS manwl cyn y dyddiad dechrau ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.
- Mae hon yn rôl ar y safle a bydd yn cynnwys rhai penwythnosau, boreau cynnar, nosweithiau hwyr a gwyliau banc.
- Mae Llyn Brenig ar agor 7 diwrnod yr wythnos, felly mae gweithio’n rheolaidd ar benwythnosau a gwyliau banc yn hanfodol.
Patrwm Gwaith
- Sifftiau achlysurol i’w cytuno bob 6 wythnos.
- Amserlen rota i’w threfnu bob 6 wythnos.
- Bydd sifftiau’n cynnwys gwyliau banc, gwyliau ysgol a phob yn ail benwythnos.
- Patrwm sifft nodweddiadol: Dydd Llun – Dydd Sul, 08:00 – 16:00/17:00 (i gwmpasu diwrnod gwaith 8 awr).
- Penwythnosau a gwyliau ysgol yw ein cyfnodau prysuraf, a bydd mwy o oriau ar gael yn ystod yr adegau hyn.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â: Lauren.Howell@dwrcymru.com a nodwch ID y swydd yn llinell pwnc yr e-bost.
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
- Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
- Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
- Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
- Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
- Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
- Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
- Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
- Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
- Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
- Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
- Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Mae Llyn Brenig yn un o bum atyniad ymwelwyr godidog sy’n cael eu rhedeg gan Dŵr Cymru Welsh Water, gan groesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i fwynhau anturiaethau awyr agored, teithiau cerdded mewn golygfeydd prydferth ac amser i ymlacio wrth ymyl y dŵr. Mae Llyn Brenig ar agor drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r safle’n cynnwys caffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy’n cynnig gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr.
Mae bwyd gwych wrth wraidd y profiadau hyn, ac fel Goruchwyliwr Arlwyo, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i wireddu hynny. Felly, dewch i ymuno â’n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o’r safleoedd harddaf yng Ngogledd Cymru.
Eisiau gweld mwy? Cliciwch Yma i gael golwg ar ein gwefan – llynbrenig.com.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.