Cynorthwyydd Manwerthu/ Caffi

Dyddiad: 22 Hyd 2026

Lleoliad: Hwlffordd, Cymru, GB, SA62 4RR

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Job Requisition Number                              8773                                                                              
Work Type Achlysurol
Job Function Hamdden a Chroeso
Salary Range £13.45 / Hour

Base

Closing Date

Llys y Fran Reservoir

Please apply ASAP - we will review applications on a weekly basis until the role is filled with a suitable match.

 

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Fel Cynorthwyydd Arlwyo, bydd gofyn i chi wneud y canlynol: 

 

  • Gweithio yn unol â gweithdrefnau priodol i sicrhau diogelwch pob unigolyn ar y safle.
  • Cysoni incwm dyddiol â derbyniadau til.
  • Gweini bwyd a diod i gwsmeriaid.
  • Sicrhau bod byrddau yn lân ac ar gael i gwsmeriaid eu defnyddio.
  • Dyletswyddau glanhau cyffredinol yn y gegin a'r ardaloedd storio.
  • Coginio i gydweithwyr a gweini prydau poeth yn ystod oriau amser brecwast a chinio.  
  • Y gallu i weithio ar eich menter eich hun   
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg   
  • Ymwybyddiaeth fasnachol
  • Sgiliau rhifedd / gweithredu til 

Amdanoch chi

 

  • Cymhwyster Lefel 2 mewn Hylendid Bwyd yn ddelfrydol
  • Profiad ym maes Arlwyo / Manwerthu / Lletygarwch
  • Profiad ymarferol ym maes Iechyd a Diogelwch   
  • Gwybodaeth neu arbenigedd ym maes gwasanaeth cwsmeriaid manwerthu
  • Gweithio gyda'r cyhoedd   
  • Y gallu i weithio ar eich menter eich hun   
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg   
  • Ymwybyddiaeth fasnachol
  • Sgiliau rhifedd / gweithredu til 

Werth ei wybod

Sylwer, efallai y byddwn yn cau'r rôl hon yn gynt os bydd angen.  Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb. 

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Jacob,Porter@dwrcymru.com

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl i’r swydd gael ei chynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.  Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar fodloni’r holl wiriadau.  Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn.

 

Buddion

Rydym yn cynnig manteision gwych, gan gynnwys:  

 

    · Cynnydd blynyddol yn y cyflog byw

    · Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau i ymwelwyr 

    · Darperir hyfforddiant a gwisg

    · Lleoliad gwaith hardd

    · Oriau gweithio hyblyg (ar gais)

 

Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ei amgylchedd hardd yn bwysig iddo.

 

 

Pwy ydyn ni

Allech chi fod yn un o genhadon canolfannau ymwelwyr Dŵr Cymru? Ydych chi'n gallu darparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid? Byddwch chi'n gwneud y canlynol fel rhan o'r rôl hon:
- darparu gwybodaeth gyfeillgar i ymwelwyr am deithiau cerdded, llwybrau seiclo a gweithgareddau eraill                                                                               - gweithio mewn ffordd ddiogel a sicrhau lles pawb 
- ymgysylltu ag ymwelwyr a gweithredu fel un o genhadon Dŵr Cymru  
- sicrhau safonau uchel o hylendid bwyd 
- gweini bwyd a diodydd i gwsmeriaid  

 

 

Dŵr Cymru Cyf, a limited company registered in Wales No. 2366777. Registered office: Linea, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff CF3 0LT

© Dŵr Cymru Cyf 2019.