Ein dealltwriaeth ni o gydraddoldeb a thegwch, a thrwy hynny'r cysyniad o fraint a'r hierarchaeth braint, yw’r peth sy'n taro wrth galon gwir effaith hiliaeth o ddydd i ddydd, boed yn agored, yn ddiarwybod, yn strwythurol neu'n sefydliadol. Yr ofn yna yw hi y gallwn i fod yn Stephen Lawrence, Damilola Taylor neu'n George Floyd unrhyw funud. A mater o wybod taw dim ond yr ychydig achosion sydd wedi taro tant trwy'r cyfryngau, neu sydd wedi cael eu gyrru gan ddewrder, dyfalwch a dycnwch llwyr pobl fel Neville a Doreen Lawrence hefyd.
Mae achos Stephen Lawrence yn un adnabyddus, ond os hoffech glywed rhagor am Damilola Taylor a'r 6 blynedd a gymerwyd i erlyn ac euogfarnu yn yr achos yna, ewch i:-
https://www.theguardian.com/uk/2006/aug/10/ukcrime.sandralaville1 a http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk/2557647.stm
Un o'r pethau da a gododd o 2020 oedd iddi roi'r sbardun i mi siarad am gael fy stopio a'm chwilio pan oeddwn i'n ddyn ifanc. Rhaid i ni beidio â llaesu dwylo yn hyn o beth, oherwydd rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019, cafodd 4 ym mhob 1000 o bobl wynion eu stopio a'u chwilio, a 38 o bob 1000 o bobl dduon. 2020 hefyd oedd y flwyddyn pan gafodd Alexandra Wilson, Bargyfreithwraig Ddu, ei chamgymryd am ddiffynnydd 3 gwaith yn yr un llys mewn un diwrnod ym mis Medi.
Felly pam fod hyn yn bwysig, a beth yw’r cysylltiad â'r gweithle?
Mae marwolaeth George Floyd a'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys (BLM) a gododd yn sgil hynny, a'r amryw o wrthdystiadau a welwyd ym mhedwar ban y byd, wedi gosod platfform i gychwyn trafodaeth anodd ond angenrheidiol am fraint. Trwy fynd i’r afael â braint, gallwn ddeall fod gan bawb ohonom safbwyntiau a rhagdybiaethau am fraint sy'n llywio'r ffordd rydyn ni'n ymddwyn, y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud a sut mae'r rhain yn effeithio arnom ni ac ar bobl eraill yn y gweithle. Mae trafod braint yn ategu sut y gallwn fynd i'r afael â'r sialensiau y mae hiliaeth yn eu codi yn ei holl ffurfiau, gyda golwg ar ddeall ffyrdd ymarferol o gyflawni gwir gydraddoldeb a thegwch yn ein bywydau ac yn y gymdeithas ehangach.
Rwy'n angerddol ynghylch yr egwyddor o feritocratiaeth – sef cymdeithas neu system gymdeithasol lle mae pobl yn datblygu ar sail teilyngdod – fel thema allweddol o ran sut y gallwn fynd i'r afael â chyfleoedd cyfartal. Gellir cael bwyd i'r meddwl yn hyn o beth trwy ddarllen: https://www.thoughtco.com/meritocracy-definition-3026409 a https://www.theguardian.com/news/2018/oct/19/the-myth-of-meritocracy-who-really-gets-what-they-deserve
Mae Dŵr Cymru'n gosod y cwsmer wrth galon popeth a wnawn, a dylem adlewyrchu cyfansoddiad ein cymunedau amrywiol a chyfoethog. Gellir sicrhau gwell cynrychiolaeth trwy gyfuniad o fentrau addysg a gwaith, ac mae cyhoeddiad Pete Perry yn Rhagfyr 2020 am yr ymrwymiad i benodi aelod BAME i'r Bwrdd Gweithredol erbyn diwedd AMP 7 yn rhywbeth i'w groesawu, er gwell hwyr na hwyrach.
Mae yna ragor y gallwn ei wneud ar bob lefel wrth gwrs, ac mae datblygiad grwpiau fel BAME+ yn cynnal yr ymgyrch i wella anghydraddoldeb ac amrywiaeth.
Er nad yw BAME+ i bawb efallai, dewch i gael cip, bydd croeso cynnes i chi, ac mae'n ddigon posibl y cewch eich synnu.