Hygyrchedd
Hygyrchedd

Buddion Gweithwyr

Rydyn ni wir yn gofalu am ein pobl. Ein pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Daw ein gweithwyr o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd, a nhw yw rhai o'r bobl fwyaf medrus a mwyaf eu parch yn y diwydiant.

Trwy weithio dros Ddŵr Cymru, byddwch chi'n ymuno â chwmni sy’n llawn unigolion angerddol sy'n ymfalchïo yn eu gwaith a'r busnes. Yn gyfnewid, mae ein timau ymroddgar yn cael eu cefnogi, eu hannog, eu meithrin, eu datblygu a'u gwobrwyo.

Yn ogystal â chyflog cystadleuol ac cewch 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata), rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o fuddion i'n gweithwyr, gan gynnwys:

  • Cynlluniau tâl amrywiol
  • Cyfraniadau cyflogwyr uwch at eu pensiynau
  • Pris gostyngol ar aelodaeth o gampfa ac yn rhai o siopau'r stryd fawr
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Cynllun prydlesu car
  • Cynllun Iechyd cael Arian yn Ôl
  • Cynllun cymorth i weithwyr i gyflogeion a'u teulu uniongyrchol

A llawer iawn mwy