Hygyrchedd
Hygyrchedd

Camau Recriwtio

Rydyn ni'n gwybod bod ymgeisio am swydd yn gallu rhoi pendro i chi. Rydyn ni'n cynnig ambell i awgrym defnyddiol yma i wneud y broses recriwtio ychydig bach yn llai cymhleth.

 

1. Lluniwch eich CV yn barod cyn ymgeisio. Mae ein proses recriwtio, a phrosesau llawer o gyrff eraill, yn gofyn i chi lwytho CV.  Sicrhewch fod eich un chi'n gyfoes, yn berthnasol i'r swydd o dan sylw ac yn barod i'w lwytho cyn dechrau'r broses o ymgeisio.

 

2. Llythyrau esboniadol, beth yw'r pwynt? Mae llythyr esboniadol yn ffordd wych o ddangos i ni pam taw chi yw'r person gorau ar gyfer y rôl. Amlygwch eich cymwysterau perthnasol, eich sgiliau a'ch profiad, a dangoswch i ni pa mor frwdfrydig ydych chi am weithio yma. Does dim angen ei bostio chwaith, dim ond ei lwytho gyda'ch CV.

 

3. Gofynion o ran Hygyrchedd?  Os gallwn eich cynorthwyo ymhellach ar unrhyw bwynt yn ystod y broses recriwtio, rhowch wybod i ni.  Fel cwmni sydd wedi ymrwymo i wella cydraddoldeb ac amrywiaeth, rydyn ni’n cefnogi “cyfweliadau gwarantedig”. Hynny yw, os yw ymgeisydd wedi datgelu eu bod yn rhan o grŵp a dangynrychiolir, ein nod fydd gwarantu cyfweliad iddynt os ydynt yn bodloni meini prawf y rôl.

Yn rhan o'n hymrwymiad i ansawdd, amrywiaeth a chynwysoldeb, rydyn ni'n cydnabod y gall rhagfarn ddiarwybod effeithio ar y broses recriwtio. Am hynny, rydyn ni am annog ymgeiswyr i nodi eu llythrennau blaen yn unig yn y meysydd enwau cyntaf, olaf a dethol ar eu ffurflenni cais ac ar eu CVs. Trwy hwyluso'r opsiwn yma ar y ffurflen gais, rydyn ni'n gobeithio codi hyder ymgeiswyr yn Dŵr Cymru fel cyflogwr cyfle cyfartal.

Dyma'r cam nesaf er mwyn creu proses recriwtio fwy teg, ac mae'n ategu ein hymrwymiad i warantu cyfweliadau hefyd.

 

4. Gwerthoedd y cwmni. Mae Dŵr Cymru'n cael ei yrru gan ei werthoedd. Mae hynny'n golygu bod sut rydych chi'n ymddwyn ac yn trin pobl eraill yr un mor bwysig i ni â'ch gallu i gyflawni'r swydd. Dyna pam ein bod ni'n gofyn i bob ymgeisydd gyflawni asesiad byr yn seiliedig ar ein gwerthoedd.  Ar ôl cyflwyno'ch cais, byddwn ni'n anfon linc atoch i gyflawni'r asesiad.  Ni ddylai'r asesiad gymryd mwy na rhyw 15 munud i chi, ond rhowch wybod os oes arnoch angen cymorth arbennig i'w gyflawni.

 

5. Ymchwiliwch i'r cwmni. Mae cynnwys da gyda ni ar YouTube, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan, ac mae pobl brofiadol a gwybodus iawn gennym yn gweithio dros y busnes. Bydd ymchwilio i'r busnes yn eich helpu chi ar bob cam o’r broses recriwtio.