'Byddwch Chi eich Hun' - Cwrdd ag Alix Olarein

Roeddwn i wedi bwriadu ysgrifennu blog i godi ymwybyddiaeth ar gyfer mis Canser y Fron ym mis Hydref, ond yn dilyn marwolaeth drasig Sarah Harding, roeddwn i am rannu hyn ynghynt.

Alix Olarein, Ymgynghorydd Hyrwyddo 

Yn 2014, pan oeddwn i'n 24 oed, cefais ddiagnosis o ganser y fron. Doedd neb arall yn y teulu wedi cael canser y fron, felly roedd hi’n sioc anferth i ni i gyd.

Roeddwn i'n gweithio dros elusen canser leol ar y pryd, felly roeddwn i'n gwybod beth oedd yr arwyddion a'r symptomau, ond freuddwydiais i fyth y byddai'r peth yn digwydd i fi.

Alla'i ddim ag esbonio fy symptomau i chi a dweud y gwir, heblaw dweud fy mod i'n teimlo'n ddiegni ac yn flinedig iawn am ychydig wythnosau.

Yn ystod y cyfnod hwn, fe wyliais i raglen ddogfen am Kris Hallenga, menyw ifanc â diagnosis angheuol o ganser y fron, sy'n cynnal yr elusen Coppafeel.

Ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach cefais boen yn fy mron, a phan deimlais i.... er mawr syndod i mi, roedd lwmp.

Am fy mod i wedi gweld stori Kris, fe benderfynais i gysylltu â'r meddyg.  Er iddi ddiystyru’r peth gan ddweud 'mi fydd hi'n iawn, rwyt ti'n rhy ifanc', rhoddodd hi fi ar restr aros i gael sgan.

Anghofiais i'n llwyr am y sgan a daliais i ati i weithio, mynd i'r gampfa a mynd allan gyda fy ffrindiau fel arfer.  

Chwech wythnos yn ddiweddarach, daeth amser y sgan, rhywbeth nad oeddwn i'n meddwl fawr ddim amdano, ond fe ddywedon nhw wrthyf i yn y fan a'r lle taw canser oedd hi, y byddai rhaid i mi golli fy mron a chael cemotherapi, ac efallai y byddai angen mwy o driniaeth arna'i wedyn. Roedd hi'n anodd ei deall; doedd hi ddim yn teimlo'n real.  

Ar ôl hynny, roedd y cyfan fel corwynt. Es i drwy bob math o driniaeth, gan gynnwys cynaeafu fy wyau. Rwy'n cofio rownd olaf y cemotherapi a chynllunio taith i Essex gyda ffrindiau 3 wythnos yn ddiweddarach i ddathlu!

Wrth i mi ddechrau gwella, fe ddechreuais i wirfoddoli gyda Coppafeel gan godi ymwybyddiaeth yn y wasg leol, cymryd rhan mewn sioe fodelu dros elusen Gofal Canser y Fron, cymryd rhan yn y ras fwdlyd, codi arian a gwneud cymaint ag y gallwn i annog pawb, (a phobl ifanc yn benodol) i fod yn ymwybodol fod hyn wir yn gallu digwydd i unrhyw un.

Roeddwn i am gael yr un effaith ar fywyd rhywun ag y cafodd Kris o Coppafeel ar fy mywyd i, am fy mod i'n sicr iddi achub fy mywyd am i mi ffeindio'r canser yn ddigon cynnar i'w drin. Yn y sioe fodelu, fe gwrddais i â 2 ddyn hynod sy'n byw â chanser y fron, sydd wir yn ein hatgoffa ni y dylai pawb fod yn archwilio'u brest yn gyson.

​​​​​​​​​​​​​​

I gael rhagor o wybodaeth am ganser y fron, sut i'ch archwilio'ch hun, trefnu negeseuon atgoffa a deall unrhyw newidiadau, ewch i Coppafeel.​​​​​​​

Nid rhywbeth i fenywod yn unig....

gall dynion gael canser y fron hefyd.  Mae rhagor o fanylion yma.