'Byddwch Chi eich Hun' - Cwrdd ag Amy Williams
Cynlluniwr ydw i yn y Tîm Cynllunio ac Amserlennu Gwastraff. Rydw i wedi bod yn gweithio dros Ddŵr Cymru ers bron i 15 mlynedd, ac ar hyn o bryd, rwy'n cynllunio gwaith MEI ar gyfer y Dalgylch Canolog.
Rwy'n dioddef o Epilepsi ers pan oeddwn i'n bump oed pan gefais i strôc fach. Mae hyn wedi fy ngadael i â nam difrifol ar fy llaw/braich dde. Rydw i wedi gorfod dysgu sut i deipio ag un llaw ac un bys. Mae hyn hefyd yn golygu na allaf i yrru.
Rydw i wedi darparu 'Canllaw' i'r tîm rhag ofn fy mod i'n cael ffit yn y gweithle fel eu bod nhw'n gwybod beth i'w wneud a phwy i gysylltu â nhw. Pan oeddwn i'n mynd allan ar y safle, roedd pawb yn cael copi o'r wybodaeth yma fel eu bod nhw'n teimlo'n hyderus am beth i'w wneud.
Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gefnogol iawn i fy nghyflwr ers y dechrau am fod angen i mi gymryd amser o'r gwaith i ymadfer ar ôl cael ffit. Maen nhw wedi darparu offer cynorthwyol i mi wrth weithio ar gyfrifiadur desg/gliniadur hefyd.
Gallwch ddarllen rhagor am Epilepsi yma.
Yma yn Dŵr Cymru rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o barch rhwng pobl lle gall pawb fod nhw eu hunain yn y gwaith a chael yr un cyfleoedd i lewyrchu. Rydyn ni'n credu mewn gwneud y peth iawn dros ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a'r cwmni. Rydyn ni wedi ymrwymo i addo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a thrin eraill ag urddas a pharch bob amser.