Andrea Villar-Arevalo, 'Mae fy marn i'n bwysig'

Andrea ydw i a dwi'n Beiriannydd Prosiect. Daw diddordeb mewn peirianneg fel arfer yn sgil diddordeb mawr mewn Mathemateg a Ffiseg yn yr ysgol – ac roedd hynny’n wir amdanaf i pan oeddwn i'n fach. Mae'n sicr nad yw peirianneg yn ddiwydiant ailadroddus – mae pob prosiect yn wahanol, sy'n ei gwneud hi'n swydd ddeinamig ac ymestynnol.

Roedd Peirianneg yn arfer bod yn ddiwydiant llawn dynion ac roedd angen i ferched brofi eu gallu fel peiriannydd er mwyn osgoi sefyllfaoedd lletchwith. Fel menyw, teg yw dweud bod angen gwneud mwy o ymdrech i ddod dros y rhwystrau hyn, ond mae hynny'n golygu fod gennym ni'r cyfle i ddatblygu gwahanol alluoedd a gwella'n hunain mewn ffyrdd gwahanol hefyd. 

Wrth weithio yn y diwydiant, rydw i wedi cael profiad o'r sefyllfaoedd canlynol: pobl yn dweud wrtha'i beth i'w wneud pan nad ydyn nhw'n ymwybodol o'n gweithdrefnau, cleientiaid yn dweud wrth fy nghydweithwyr fy mod i wedi gwneud rhywbeth o'i le pan nad oedd hynny’n wir, neu weithredwyr ar y safle'n sôn pa mor bert yw fy ngwên... Mae'r sefyllfaoedd yma'n digwydd wrth weithio gyda gweithredwyr allan ar safle fel rheol, sy'n dangos bod yna waith o flaen y diwydiant o hyd, ond mae hi'n rhan o'n gwaith peirianneg: dylunio’r peth a’i wireddu.