Miriam Wasik-Evans, 'Mae gwybod bod y cwmni'n cymryd cydraddoldeb i fenywod o ddifri'n rhoi hyder i mi'

Heia, Miriam ydw i, a fi yw Prif Beiriannydd y Gwasanaethau Datblygu yn y Gogledd. Fi sy'n gyfrifol am ddylunio a chyflawni cynlluniau prif bibellau dŵr ac ategu'r rhwydwaith carthffosiaeth ar draws y gogledd ar ran datblygwyr. Rwy'n cyfrannu at amrywiaeth o brosiectau, o gynorthwyo pâr sy’n adeiladu eu tŷ cyntaf, i ddarparu seilwaith dŵr a dŵr gwastraff ar gyfer safleoedd datblygu strategol mawr neu gynlluniau seilwaith pwysig fel ffordd osgoi Caernarfon.

Nid oes unrhyw ddau brosiect, diwrnod, sialens neu ateb yr un fath, a dyna un o'r rhesymau pam rwy'n caru fy ngwaith.

Roeddwn i wastad yn gwybod fy mod i am weithio yn y diwydiant adeiladu; roeddwn i am ddylunio pethau a fyddai'n bodoli am genedlaethau i ddod ac y gallwn i bwyntio atynt pan fyddaf i'n hŷn a dweud 'Fi wnaeth hwnna', ond doeddwn i ddim yn gwybod y bydden i'n pwyntio at siambrau tyllau archwilio! Wrth edrych nôl at pan oeddwn i'n iau, dwi ddim yn cofio rhyw lawer o gyfleoedd i archwilio'r posibilrwydd o fod yn beiriannydd pan oeddwn i yn yr ysgol, a dwi'n sicr ddim yn adnabod unrhyw beirianwyr benywaidd a allai fod wedi fy ysbrydoli i fynd i’r maes. Mae hyn wedi gwella dros amser, ac mae'r ymgyrch ryngwladol i godi ymwybyddiaeth ar ffurf Diwrnod Menywod mewn Peirianneg wedi bod yn allweddol yn hynny o beth. Rwy'n credu ei bod hi'n fendigedig fod Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gydag ysgolion lleol, yn trefnu i beirianwyr benywaidd blaenllaw o'r cwmni roi cyflwyniadau ysbrydoledig mewn ysgolion, ac yn cymell peirianwyr y dyfodol ar gyfer ein diwydiant.

Rydw i wedi bod yn gweithio yn y diwydiant peirianneg ers dros 13 o flynyddoedd bellach, ac rydw i wedi treulio bron i 10 o'r blynyddoedd hynny gyda Dŵr Cymru, felly dwi ddim wir yn gyfarwydd â bywyd y tu hwnt i fod yn fenyw yn y byd peirianneg. Mae'r rhan fwyaf o'r timau rydw i wedi gweithio gyda nhw wedi bod yn ddynion yn bennaf, gydag un neu ddwy o fenywod yn y tîm efallai. Dwi ddim yn gadael i hynny fy nychryn ac mae gwybod bod y cwmni'n cymryd cydraddoldeb i fenywod o ddifri'n rhoi hyder i mi.  Mae Dŵr Cymru wedi fy nghefnogi'n ymarferol trwy gydol fy ngyrfa ac wedi darparu cyfleoedd datblygu rhagorol i mi.

Yn amlwg, mae yna sialensiau ynghlwm wrth fod mewn lleiafrif mewn diwydiant; ar ambell i achlysur mae pobl wedi fy nghamgymryd am aelod o staff iau am fy mod i'n fenyw, mae hi’n anodd cael y cyfarpar amddiffynnol personol cywir i ffitio (menig a llewys) ac anaml iawn y mae'r cyfleusterau tŷ bach ar safleoedd adeiladu'n dderbyniol. Ond ar y cyfan, mae'r pethau da yn drech na'r sialensiau achlysurol o bell ffordd, a bydden i'n argymell y diwydiant yma i unrhyw un.