Nicole Faulkner, 'Rydw i wastad wedi cael fy nerbyn fel rhywun cydradd'

Nicole ydw i ac rwy'n Beiriannydd Prosiect. Dechreuodd fy niddordeb mewn peirianneg pan oeddwn i'n ifanc iawn, am fod adeiladu pethau a gweld sut roedd pethau'n cael eu gwneud a'u rhoi at ei gilydd yn fy nghyffroi. Roeddwn i'n edmygu fy nhad oedd yn gweithio yn y diwydiant adeiladu a dŵr - roedd e yno bob amser i'm cynorthwyo a'm cefnogi ar bob cam o'r siwrnai yn y diwydiant yma, a heb ei gefnogaeth ef, fyddwn i ddim ble ydw i heddiw!

Pan oeddwn i'n dewis pa gyrsiau Safon Uwch i'w dilyn, cyflwynodd fy ysgol gwrs BTEC newydd sbon mewn Peirianneg, a dyna pryd ffeindiais i'r llwybr roeddwn i am ei ddilyn.

Roedd y cwrs yn cynnwys popeth roeddwn i wedi ymddiddori ynddo ac roedd hi'n berffaith i mi.

Dim ond fi ac un ferch arall oedd yn y dosbarth gyda 15 o fechgyn, ac roedd hynny'n fy nychryn ychydig bach ar y dechrau am fy mod i'n berson digon swil. Ond ar ôl y gwersi cyntaf, doedd hi ddim cynddrwg ag roeddwn i wedi meddwl, ac roedden ni'n ffitio i mewn yn dda.

 

"Fel menyw yn y diwydiant yma, rydych chi'n mynd i fod mewn lleiafrif, ond feddyliais i fawr ddim am y peth am fy mod i wir am fod yn beiriannydd sifil a dilyn fy mreuddwyd. Dydw i erioed wedi teimlo nad oes croeso i mi, dydw i erioed wedi teimlo fy mod i'n cael fy nhrin yn wahanol ac rydw i wedi cael fy nerbyn fel rhywun cydradd."

 

Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau trwy ddilyn y llwybr gyrfaol yma, yn ddynion ac yn ferched, ac rwy'n dal i fwynhau fy siwrnai fel peiriannydd!

Petai rhaid i mi rannu un gair o gyngor – dyw'r ffaith fod pobl yn ystyried byd peirianneg fel 'amgylchedd i ddynion' ddim yn golygu na allwch chi, neu na fyddwch chi'n ffitio i mewn – fyddai hynny. Mae'r byd yn newid ac rydyn ni i gyd yn dysgu oddi wrth ein gilydd.