Symudedd yn newid: Rebecca Snell

Rydyn ni i gyd wedi gweld newidiadau ers i ni fod yn y swyddfa ddiwethaf. I mi, y newid mwyaf yw fy symudedd. Cyn y cyfnod clo, byddwn i'n cerdded o gwmpas y swyddfa heb gymorth (er ychydig bach yn sigledig).

Pan awn ni nôl, rydych chi'n fwy tebygol o ngweld i'n cerdded â ffon, neu â ffrâm rholio, sydd fel ffrâm gerdded ar olwynion. Mae hynny oherwydd, fel popeth arall, gall symudedd rhywun newid, ac felly hefyd defnydd rhywun o gymhorthion symudedd.

Fe ddechreuais i ddefnyddio ffon gerdded ychydig flynyddoedd yn ôl, ar y cychwyn, byddwn i ond yn defnyddio’r ffon mewn sefyllfaoedd lle'r oeddwn i'n gwybod y byddai angen i mi gerdded tipyn. Dros amser, fe ddechreuais i ei defnyddio'n fwy ac yn fwy, ac yn y pen draw, yr unig le lle nad oeddwn i'n ei defnyddio oedd gartref.

Tua diwedd yr haf, pan ddechreuodd y glaw, fe sylweddolais i fy mod i'n mynd yn gyndyn i fynd allan am dro ar fy mhen fy hun am fod y llawr gwlyb yn teimlo fel iâ dan fy nhraed.

Roedd hi'n amser newid rhywbeth.

Gofynnodd therapi galwedigaethol i mi roi cynnig ar sawl peth gwahanol er mwyn cadw i symud yn ddiogel. Yn y pen draw fe ddewisais i'r ffrâm rholio. Rwy'n cofio meddwl: "pa mor aml welwch chi rywun o dan 70 oed â ffrâm gerdded?!" I mi, roedd ffon gerdded, baglau neu gadair olwyn oll i'w gweld yn fwy "derbyniol" fel cymhorthion cerdded i bobl iau, ond roedd ffrâm rolio ychydig yn fwy anarferol. Er fy mod i wedi bod yn defnyddio fy ffon gerdded am ychydig flynyddoedd, rwy'n dal i fod ychydig bach yn hunanymwybodol wrth ddefnyddio fy nghymhorthion.

Y tro cyntaf i mi fynd allan am dro gyda'r ffrâm rholio, fe eisteddais i yn y car am 10 munud yn trio magu'r hyder i fynd allan. Ond fe es i, a dydw i ddim wedi bod am dro ar fy mhen fy hun hebddi ers hynny. Mae ambell un yn edrych arna i’m syn, sy'n deimlad annifyr – ond ar yr ochr bositif, mae rhywun wedi stopio a gofyn i mi ble ges i’r ffrâm am eu bod nhw wedi cael trafferth ffeindio un addas eu hunain! Rwy'n dal i ddysgu i dderbyn y newidiadau, ac rwy'n pryderu am beth fydd ei angen arna'i yn y dyfodol, ond mae defnyddio'r ffrâm rholio wedi rhoi'r hyder i mi fynd allan ar fy mhen fy hun ac wedi caniatáu i mi barhau i wneud pethau'n annibynnol a bod yn "fi fy hun".

Weithiau mae pobl yn osgoi defnyddio cymhorthion symudedd, gan ei gweld hi fel ildio i’w anhwylder neu adael iddo "ennill".

Ond y gwir amdani yw bod cymhorthion symudedd yn gallu cyfoethogi bywyd rhywun, gan roi peth o'r rhyddid roedden nhw wedi ei golli nôl iddyn nhw. Mae ymadroddion fel "caeth i gadair olwyn" yn cael eu defnyddio'n aml i ddisgrifio pobl sy'n defnyddio cymhorthion symudedd, ond mae'r fath yna o iaith yn anghywir. Nid yw cymhorthion symudedd yn caethiwo rhywun - maen nhw’n rhoi'r rhyddid a'r annibyniaeth iddynt fyw eu bywydau fel y maen nhw'n dymuno. Y peth sy'n cyfyngu ar berson go iawn yw mynediad i le, a cham-ganfyddiadau pobl eraill yn y gymdeithas.

Gall anghenion person newid o ddydd i ddydd, ac mae gwahanol weithgareddau'n gofyn am wahanol fathau o gymorth. Cofiwch, nid oes parlys ar bawb sydd mewn cadair olwyn, ac nid ydych chi'n gweld gwyrth os gwelwch chi nhw'n codi ac yn symud o gwmpas! Maen nhw wedi pwyso a mesur beth y mae angen iddynt ei wneud y diwrnod hwnnw, ac maen nhw'n gwybod sut a phryd i ddibynnu ar eu cymhorthion symudedd i gyflawni hynny'n ddiogel.