‘Byddwch Chi'ch Hun’ - Cwrdd â Vyvyan Evans

Mae yna sawl gwahanol fath a graddfa o ddyslecsia, ond un nodwedd gweddol gyffredin sy'n gallu lleddfu'r dryswch rhwng llythrennau yw defnyddio bysellfwrdd â gwahanol liwiau.  Yn rhan o dreial gyda Datblygu Talent, rydw i wedi bod yn defnyddio'r bysellfwrdd yma ers rhyw bythefnos.

 Mae'r bysellau cyferbynnedd uchel yn fy nghynorthwyo i wahaniaethu rhwng y llythrennau ac maen nhw'n gallu helpu i wella rhuglder fy nheipio am eu bod pethau’n llai cymysglyd.  Y math â bysellau mawr sydd gen i, ond mae rhai â bysellau maint cyffredin ar gael hefyd. Bydd y bysellfwrdd yma ar gael i'r rhai a fyddai'n elwa arno cyn bo hir, a bydden i wir yn argymell rhoi cynnig arni os oes dyslecsia gennych chi.

Mae dyslecsia'n gyffredin (credir bod gan 1 person mewn 20 rai tueddiadau) ac mae'n gallu effeithio ar bobl mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yn rhan o Wythnos Cynhwysiant, mae'r paragraff isod yn esbonio rhai o nodweddion dyslecsia, er mwyn sicrhau dealltwriaeth well fel y gallwch gynorthwyo cydweithwyr sy'n dioddef o'r cyflwr.

Mae dyslecsia'n aml yn cael ei gysylltu â sillafu gwael neu ddryslyd, ond un yn unig o'r nodweddion yw hyn. Prif nodwedd dyslecsia yw anawsterau cofio. Rydyn ni i gyd yn cael trafferth cofio pethau o bryd i’w gilydd, ond i lawer o bobl â dyslecsia, mae drysu rhifau neu drefn sylfaenol tasgau - boed yn drefn y camau sydd eu hangen i wneud paned o de, neu'r prosesau sydd ynghlwm wrth gyflawni prosiect gwaith -  yn gallu bod yn drafferth fawr.

Mae'r amser a'r ymdrech sy'n mynd i weithio trwy gyfres o gamau dyrys i gyflawni tasg yn gallu bod yn feichus. Mae rhai agweddau ar weithio gartref pob dydd wedi gwaethygu'r problemau cofio, i fi o leiaf. Fel arfer rwy'n cofio trafodaethau a'r gwahaniaethau rhwng gwahanol sgyrsiau ar sail ble ddigwyddon nhw (yr ystafell, lliw'r waliau, beth oedd y person yn ei wisgo ar y diwrnod), nawr bod popeth ar MS Teams, rwy'n dibynnu'n llwyr ar gymryd (gormod o!) nodiadau; ac mae'r ffaith na allaf i argraffu pethau’n gwaethygu pethau hefyd. Mae negeseuon e-bost neu destun heb benawdau na thoriadau’n gallu bod yn anodd i mi. Mae dyslecsia'n gallu bod yn lleidr amser, i mi o leiaf. Os ydw i ychydig yn araf yn deall rhywbeth, dychmygwch y ddelwedd llwytho glas yna ar gyfrifiadur, weithiau mae angen ychydig bach o le ac amser arnaf i i 'byffro' nes bod y niwl yn clirio a gallaf i gymryd rhagor o wybodaeth i mewn.

Mae adnoddau gwych ar gael i helpu, ac mae ffynonellau gwybodaeth da ar gael os hoffech chi ddysgu rhagor.