Hygyrchedd
Hygyrchedd

Medi 2020 - Ymgyrch Chi eich Hun

Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i gydnabod a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a thrin eraill ag urddas a pharch bob amser. Dyna pam ein bod ni wedi lansio ein hymgyrch ‘Chi eich Hun' – dyma Jenna Nicolle-Gaughan, Rheolwr Cydymffurfiaeth a Chennad Cynhwysiant yn esbonio rhagor.

“Er mwyn cefnogi'r ymgyrch 'Chi eich Hun', mae gennym fathodynnau i gydweithwyr eu gwisgo ar eu laniardau a fersiwn electronig i'w hychwanegu at lofnodion e-bost. Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn hyrwyddo diwylliant lle gall pawb fod yn nhw eu hunain yn y gwaith.

Fel Cennad Cynhwysiant, byddaf i'n gwisgo fy mathodyn i â balchder ac yn annog pobl eraill i wneud yr un fath. I gofrestru i gael bathodyn, rhaid i gydweithwyr wneud addewid i'w cefnogi ei gilydd, annog pobl i fod yn nhw eu hunain a dathlu ein gwahaniaethau. Bydd hyn yn helpu i greu lle diogel lle gall pawb ddisgwyl cael eu trin ag urddas a pharch, ac yn gwneud Dŵr Cymru'n lle gwell i weithio. Rydyn ni'n gofyn i gydweithwyr ymgorffori'r geiriau sydd ar y bathodyn yn eu gweithredoedd, er mwyn ei gwneud yn glir na chaiff unrhyw fwlio, aflonyddu na gwahaniaethu eu goddef yn Dŵr Cymru”.