Safonau Harddwch: Mater Hil? gan Omolara Cordle

Roedd Mis Hanes Pobl Dduon yn drobwynt.

Gorfododd y mis diwethaf (a'r rhai a arweiniodd ato) i mi ystyried beth mae bod yn Ddu yn ei olygu i mi, i'm hanwyliaid, i’m cydweithwyr ac i'r gymdeithas. Beth rydw i wedi ei ddysgu yw bod yr ystyr y tu ôl i fod yn Ddu mor anhygoel o gymunol. Mae pobl nad ydynt yn wyn yn rhan o gymundod, sy'n cyd-brofi loes, gorfoledd ac anghyfiawnder. Ond mae'r cymundod yma'n dod â’r un faint o unigoliaeth, unigrwydd a phrofiadau hynod o bersonol hefyd, sy'n amrywio’n seiliedig ar y cysyniad o groestoriadedd (cliciwch yma i ddysgu rhagor am groestoriadedd a sut mae hyn yn hanfodol i gynghreiredd).

Mae fy mherthynas â'm hil yn gymhleth, felly rwy'n mynd i gyffwrdd ar un elfen yn unig heddiw – sef safonau harddwch.

Gallech ofyn sut mae hyn yn fater o hil? Yn ymwybodol ac yn ddiarwybod, mae'r gymdeithas wedi ein dysgu ni i gysylltu harddwch â bod yn wyn, yn denau ac yn abl. Roeddwn i am gynnwys ambell i ffaith yma er mwyn helpu i ddangos maint a chwmpas y broblem. Ond mae sawl awr o ymchwilio wedi dangos i mi nad oes digon o ymchwil nac amser yn cael ei fuddsoddi i wneud i ddynion, menywod a phlant Duon deimlo'n hardd, a gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu caru a'u gwerthfawrogi. Ond dyma ambell i bennawd digon brawychus, a digon real i chi:

1.       Canfu astudiaeth gan y Sefydliad Canfyddiadau yn 2017 fod un fenyw ddu ym mhob pump yn teimlo dan bwysau cymdeithasol i sythu eu gwallt ar gyfer y gwaith, ac maen nhw'n fwy tebygol o lawer o bryderu am y mater na menywod gwyn

 https://www.refinery29.com/en-gb/hair-discrimination-uk-workplace

2.      Dywedodd 77% o fenywod Nigeraidd eu bod yn defnyddio cynnyrch i wneud eu croen yn fwy golau yn rheolaidd 

https://www.womenshealthmag.com/uk/beauty/skin/a33469451/skin-lightening/

3.      Wrth ymgeisio am swydd yn Harrods, dywedwyd wrth un fenyw ddu Brydeinig 'chei di ddim gweithio i mi oni bai dy fod ti'n cael dy wallt wedi ei lacio'n gemegol am nad yw dy wallt fel y mae yn ddigon proffesiynol’

https://www.independent.co.uk/news/business/news/sexist-workplace-dresscodes-high-heels-row-women-dye-hair-blonde-revealing-outfits-female-employees-offices-a7544736.html

4.      Cafodd menyw â gradd gynnig am swydd wedi ei dynnu nôl am 'nad yw'r cwmni'n derbyn' plethenni gwallt

https://www.huffingtonpost.co.uk/2015/11/26/a-graduate-job-offer-revoked-because-the-company-does-not-accept-braided-hair_n_8654426.html

 Felly dyna'r ffeithiau – ond pam fyd hyn yn broblem i'r gweithle?

Mae hi'n broblem i'r gweithle am fod pawb yn haeddu cael bodoli ar eu ffurf fwyaf cyffyrddus yn y gwaith. Rydyn ni'n gwybod ein bod ni ar ein mwyaf cynhyrchiol ac arloesol pan fyddwn ni'n teimlo'n gyffyrddus, a phan fo pobl yn ein derbyn ac yn ein clywed ni.  I mi, byddai hynny'n golygu gwisgo clymau neu dorchau bantu - steiliau sy'n amddiffyn gwallt affro naturiol. Ond fel steiliau gwallt 'anarferol', a rhai sy'n bloeddio am y ffaith fy mod i'n ddu, dydw i ddim yn teimlo'n gyffyrddus yn eu gwisgo y tu allan i'm cartref fy hun. Y ffaith amdani yw, po fwyaf y gallaf wneud i fy hunan edrych yn fwy gwyn, po hawsaf yw bywyd i mi - rwy’n gallu ymaddasu. Dydw i ddim yn poeni am gael fy nilyn gan bobl diogelwch mewn siopau os yw fy ngwallt yn syth, am fod hynny'n gwneud i mi edrych yn 'llai Du' ac felly'n anffodus 'haws ymddiried ynddo'. Dydw i ddim yn poeni am bobl yn edrych arna' i'n od mewn cyfarfodydd os yw fy ngwallt yn syth, ac rydw i wedi cael fy nysgu bod gwallt syth (gwyn) 'yn fwy proffesiynol'. Ond rydw i'n poeni am y neges rwy'n ei roi i ferched ifanc ddu; nad yw’r ffordd rydyn ni'n bodoli’n naturiol yn ddigon da, ac y dylem ni anelu at gorffori safonau harddwch cis, ewro-sentrig. Neges yw hon sy'n cael ei hategu gan y ffaith nad oes unrhyw ddoliau, plasteri, colur nac eli haul du ar gael yn rhwydd i'r merched ifanc yma. Mae'r rhestr yn hirfaith, ond yn y pendraw, mae'n ein hatgoffa nad yw'r gymdeithas yn ein gwerthfawrogi ni, yn ein clywed ni, nac yn ein gweld ni.

Yn ystod Mis Hanes y Bobl Dduon 2020, cefais byliau o anobaith a digalondid mawr wrth feddwl am SARS a'r sefyllfa yn fy mamwlad arall yn Nigeria. Daeth hyn ynghyd ag ymdeimlad dwys o gymuned a pherthyn