Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2021

“恭喜發財 - Blwyddyn Newydd Tsieineaidd Hapus i bawb yn Nŵr Cymru, boed i flwyddyn y Bustach ddod ag iechyd da, hapusrwydd a ffyniant i chi i gyd yn ystod y cyfnod pryderus yma!”

Tung Chung, Pensaer Technegol Digidol yn y Gwasanaethau Adwerthu

Blwyddyn y Bustach. 

Dechrau heddiw, 12 Chwefror, 2021 a bydd yn para tan 31 Ionawr, 2022.  Mae Blwyddyn y Bustach yn digwydd pob 12 mlynedd.  Dyma ffilm sy'n cynnig rhagor o wybodaeth – cliciwch yma i wylio. 

Pa mor hir mae dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn para?

Mae'r dathliadau'n para hyd at 16 diwrnod, ond dim ond y 7 diwrnod cyntaf sy'n wyliau cyhoeddus (11-17 Chwefror 2021).

Pum Ffaith Difyr

1. Enw arall ar y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yw Gŵyl y Gwanwyn – chunjie (春节) yw enw pobl Tsieina ar yr ŵyl. Mae hi'n dal i fod yn aeafol iawn, ond mae'r ŵyl yn dathlu diwedd y tywydd oeraf. Mae pobl yn dathlu'r gwanwyn a'r pethau sy'n dod yn ei sgil: fel plannu a chynaeafu, a dechreuadau newydd.

2. Mae hi'n ddiwrnod o weddïo i'r duwiau – diwrnod seremonïol i weddïo i'r duwiau am dymor plannu a chynaeafu da oedd Gŵyl y Gwanwyn yn wreiddiol. Roedd y cynhaeaf yn hollbwysig, am taw cymdeithas amaethyddol oedd hi’n bennaf. Roedd pobl yn gweddïo i'w cyndeidiau hefyd, am fod y rhain yn cael eu trin fel duwiau (mae’r ffilm Mulan yn dangos hyn).

3. Mae mwy o dân gwyllt yn cael eu ffrwydro ar y noson hon nac ar unrhyw adeg arall nac mewn unrhyw le arall yn y byd –  Oherwydd yn ôl chwedl Nian, mae tân gwyllt yn dychryn angenfilod ac anlwc i ffwrdd. Mae pobl yn aros i fyny'n hwyr ar noswyl y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ac yn cynnau tân gwyllt am ganol nos. Maen nhw'n cynnau tân gwyllt eto yn y bore i groesawu'r flwyddyn newydd ac am lwc. Yr un noson, mae teuluoedd yn llosgi arian papur a bariau aur ffug i anrhydeddu eu hanwyliaid sydd wedi marw. Yn debyg i ŵyl Chuseok Corea neu draddodiadau Gŵyl y Meirw ym Mecsico, maen nhw'n credu y bydd yr offrymau hyn yn dod â ffortiwn a lwc i’w hanwyliaid yn y byd nesaf.

4. Mae pobl yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieneaidd ym mhedwar ban y byd – Mae pobl Tsieineaidd i gyfrif am un person ym mhob 5 yn y byd – ac nid yw hynny'n cynnwys y miliynau o bobl Tsieineaidd sy’n byw dramor a phobl o drais Tsieneaidd.  Mae Llundain, Lloegr; San Francisco, UDA; a Sydney, Awstralia; oll yn hawlio taw nhw sy'n cynnal dathliadau mwyaf Gŵyl y Gwanwyn y tu hwnt i Asia. 

5. Mae plant yn derbyn arian lwcus mewn amlenni coch - Mae plant yn derbyn rhoddion ar eu dyddiau gŵyl mewn diwylliannau eraill. Mae pobl yn cyfnewid rhoddion yn ystod Gŵyl y Gwanwyn, ond mae plant Tsieineaidd yn derbyn rhywbeth arall hefyd – amlenni coch Enw arall ar y rhain yw pacedi neu bocedi coch, ac mae arian ynddynt. Mae'r arian yma i fod i helpu i drosglwyddo ffortiwn o'r henuriaid i'r plant. Mae rheolwyr a gweithwyr, cydweithwyr a ffrindiau’n gallu cyfnewid y rhain hefyd.  Yn sgil datblygiad technoleg, mae pocedi coch digidol yn boblogaidd heddiw. Mae pobl yn hoffi anfon un i mewn i sgwrs grŵp a gwylio'r lleill yn ymladd am yr arian. Qiang hongbao (抢红包) yw'r enw ar hyn, sef yn llythrennol “cipio pocedi coch.”