Enw: Dominic Evans

Swydd yn Dŵr Cymru: Hyfforddai ar y Rhagleni Raddedigion ym maes Gwyddorau Data

Ym mha faes o'r busnes wytti'n gweithio: Y Tîm Data o fewn y Gwasanaethau Gweithredol

Beth wnaeth i ti ymgeisio ar gyferrhaglen graddedigion Dŵr Cymru?  Awgrymodd fy mrawdy dylwn i edrych arraglenni i raddedigion am eu bod nhw'n ffordd wych o ddysgu, datblygu sgiliau newydd a phontio i'r byd gwaith. Wrth chwilio amraglenni i raddedigion, fe ffeindiais i raglen Dŵr Cymru, ac roedd y rhaglen Gwyddorau Data'nedrych yn ddifyr dros ben. Mae beth mae'r tîm yn ei wneud mor syfrdanol a diddorol. Pan oeddwn i'n siaradâ phobl ac yn sôn amDdŵr Cymru, roedd pawb yn dweud ei bod hi'n swydd amoes. Roedd pawb yn llawn clod amy cwmni felly doedd dim rhaid meddwl dwywaithcyn ymgeisio. Rydw i am i ddysgu a datblygudrwy'r amser; felly, y rhaglen graddedigion oedd y cyfle perffaith i mi dyfu trwy fy ngwaith.

Beth wyt ti wedi ei fwynhau'r mwyaf am raglen graddedigion Dŵr Cymru?

Rydw i wir wedi mwynhau pob agwedd ar y rhaglen i raddedigion hyd yn hyn. Ond y peth mawri fi yw faint rydw i wedi ei ddysgu hyd yn hyn. Rydw i wir yn mwynhau cael dysgurhywbeth newydd bob dydd a chael datblygu fy rôl ymhellach. Mae cefnogaetha chymorth y cwmni wedi bod yn fendigedig.

 

Beth fyddetti'n ei ddweud wrth unrhywun sy'n ystyried ymgeisio ar gyfer y rhaglen?

Mae hi'n ffordd wych o dyfu a datblygu fel unigolyn. Os ydych chi'n fodlon dysgu, dyma'r rhaglen i chi. Mae yna gynifer o gyfleoedd i chi ddatblygu o fewn adrannau a chael gwell dealltwriaetho'r cwmni. Mae'r gefnogaethheb ei hail ac mae hi'n gwmni bendigedig i weithio drosto.