Wrth i mi ddechrau colli pwysau mewn ffordd iachus, dechreuodd pobl ddweud wrthyf i pa mor dda'r oeddwn i'n edrych, ac o fewn dim, trodd hi'n obsesiwn. Fe sylweddolais y gallwn i gael y dilysiant a'r teimlad o reolaeth yr oeddwn i wedi dyheu amdanynt pan oeddwn i’n blentyn, ond roedd yna le i wthio fy hun yn galetach bob tro. Roedd y peth yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i mi, ac roeddwn i'n teimlo'n dda amdanaf fi fy hun. Gwnaeth i mi deimlo cystal nes ei bod hi'n werth teimlo'n flinedig ac yn llwglyd o hyd, ac fe ddaliais i ati i fyw bywyd ar awto-peilot llawn gorbryder a blinder mawr am flynyddoedd. Dechreuodd fy arferion anhrefnus fel ffordd gyfleus o ymdopi â llawer o'r agweddau ar fy mywyd oedd yn fy llethu, ond trwy gyd-ddigwyddiad roedden nhw'n ateb fy anghenion hefyd. Fe gadwon nhw fy ffocws ar y nod a'm hatal rhag mynd dros y dibyn – ond fe es i'n rhy ddibynnol arnyn nhw.
Y gwir amdani yw ein bod ni i gyd yn debygol o ddefnyddio bwyd ac ymarfer corff fel ffordd o ymdopi ar ryw adeg yn ein bywydau, ond mae pobl yn aml yn teimlo nad yw hi'n anhwylder go iawn am fod y rhan fwyaf o arferion afiach yn cael eu glamoreiddio. Mae hi'n arbennig o anodd sylwi pan rydyn ni wedi cael ein datguddio i ddiwylliant o fod ar ddiet o oedran ifanc, pan fo colli pwysau'n aml yn cael ei weld fel peth cadarnhaol, ac yn enwedig i fenywod. Rydyn ni wedi gosod disgwyliadau hurt i ni’n hunain o ran ein hymddangosiad a'n cyrff! Ond mae alcohol yn debyg iawn. Mae yfed yn drwm yn rhywbeth sy’n cael ei glamoreiddio o oedran ifanc iawn hefyd - rydyn ni'n meddwl bod pobl yn wan am nad ydyn nhw'n ymuno yn ‘hwyl’ yfed gormodol, ond pan maen nhw'n dechrau dibynnu ar alcohol mewn ffordd sy'n amharu ar eu bywydau - rydyn ni'n eu cywilyddio. "Gallai hynny byth ddigwydd i fi". Os ydych chi'n gwneud rhywbeth sy'n eich caethiwo fel ffordd o ymdopi, wrth gwrs ei fod e'n gallu digwydd i chi. Mae anhwylderau bwyta'n gallu digwydd i unrhyw un, ar unrhyw adeg, ac am unrhyw reswm.
"Dwi ddim yn edrych fel bod anhwylder bwyta gen i".
Mae'r un yma'n un pwysig i mi, hynny yw bod angen bodloni rhyw ddelwedd/maen prawf i fod ag anhwylder bwyta, yn seiledig ar faint, pwysau, rhyw, hil – unrhyw beth. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl dan yr argraff fod anorecsia'n salwch sy'n effeithio ar ferched ifanc gwyn sydd eisoes yn denau i'w cadw nhw'n denau. Er fy mod i'n bodloni'r rhan fwyaf o'r meini prawf yna, welais i erioed fy hun yn ddigon tenau, ac mae'n drist meddwl na fyddwn ni erioed wedi yn fwy na thebyg. I bob pwrpas, am fy mod i'n teimlo nad oeddwn i'n edrych fel bod anhwylder bwyta gen i, yna doedd dim un gen i, ond roedd hynny'n diystyru'r dinistr oedd yn digwydd yn fy meddwl yn llwyr. Alla'i ddim â phwysleisio digon taw anhwylder seicolegol yw hi 100% ac mae ei effeithiau'n gallu gorlifo i mewn i iechyd corfforol. Hyd yn oed pan ddechreuais i wella a siarad â phobl am fy mhrofiad, fe ddywedodd ambell un "Byddwn i erioed wedi dyfalu, doeddet/dwyt ti ddim yn edrych yn ddigon tenau". Roedd sylwadau fel hyn yn annilysu fy mhrofiad eto fyth. Nid yw 85% o bobl ag anhwylderau bwyta o dan eu pwysau, ac mae'r 'Safon Anorecsia' yma'n hollol docsig, ac yn ddisgwyliad sy'n rhwystro pobl rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gallwch fod ag anhwylder bwyta a haeddu cymorth beth bynnag yw'ch maint, rhyw, hil neu oedran. Rwy'n teimlo bod hyn yn arbennig o bwysig i ddynion yn sgil twf diwylliant y gampfa a'r disgwyliadau afrealistaidd sydd gan y gymdeithas o ran eu cyrff – wedi’r cyfan, dynion yw 25% o'r bobl ag anhwylderau bwyta!
“Rhaid i adferiad fod yn llinol. Rhaid i mi fynd o fod yn wael i fod yn well ar fy mhen fy hun – dyna'r unig opsiwn”
Er i gyfaddef a sylweddoli bod problem gen i roi teimlad o ryddhad mawr i mi, doeddwn i ddim am wneud dim ynghylch y peth. Roedd gen i ormod o afael ar fy arferion ac roeddwn i'n teimlo eu bod nhw'n rhywbeth roedd gen i reolaeth drostynt ac y gallwn eu goresgyn fy hun pan oeddwn i eisiau. Fe wnes i fyw gyda nhw am flwyddyn arall, ond pan aeth pethau'n wael iawn eto, gwelais i fod ganddyn nhw fwy o reolaeth drosof nag oedd gen i drostyn nhw. Fe benderfynais i gael cymorth proffesiynol, ac er i hynny helpu'n fawr, roedd y syniad o roi'r gorau i'r arferion oedd yn rhoi cysur i mi ac a oedd wedi fy nghynorthwyo i ffeindio fy ffordd trwy fy mywyd i gyd yn ormod i mi o hyd. Roedden nhw'n ran ohonof i. Wnes i ddim cwblhau fy nghwrs therapi. Er i bethau wella, am sbel, byddwn i'n gwella ac yna'n cael pwl arall. Roedd fy syniad i o wella'n edrych fel rhywbeth oedd allan o ’ngafael i'n llwyr. Rhoddas i'r syniad i'r neilltu, gan dderbyn na fyddwn ni byth yn cyrraedd y nod. Penderfynais i fy mod i'r tu hwnt i gymorth.
Dros amser, fe ddechreuais i amgylchynu fy hun â phobl hyfryd a chefnogol a roddodd gymorth i mi feithrin perthnasau diogel, heb feirniadaeth, lle gallwn i fod yn agored a siarad am fy nheimladau. Pylodd fy nheimladau o gywilydd wrth i mi ddechrau wynebu'r peth, ac o'r diwedd, roedd y gyfrinach roeddwn i wedi bod yn ceisio'i chuddio gyhyd 'allan'. Sylweddolais i pa mor gryf yr oeddwn i ar ôl bod trwy gymaint – y gwrthwyneb i wan neu doredig. Wrth i mi estyn allan at fwy a mwy o bobl, dechreuodd pobl eraill rannu eu profiadau iechyd meddwl nhw, ac roeddwn i'n synnu i weld cynifer o bobl oedd â meddyliau ac arferion anhrefnus fel fy rhai i.
Wrth i fy nisgwyliadau ohonof fi'n hunan, o bobl eraill, ac "adferiad" newid, o dipyn o beth dechreuodd fy arferion anhrefnus bylu hefyd. Sylweddolais i fod rhai o'r rheolau roeddwn i'n arfer eu defnyddio i blismona a chyfyngu ar fy hun wedi diflannu gyda nhw. Nid oedd arnaf eu hangen mwyach. Digwyddodd yr holl bethau roeddwn i'n eu hofni fel bwyta bara, colli sesiwn yn y gampfa, prynu'r maint neesaf i fyny, heb i fy mywyd chwalu'n deilchion. Roedd hi'n newid cynnil iawn. Nawr rydw i mewn lle nad oeddwn i byth yn meddwl y byddwn i'n ei gyrraedd – ac alla'i ddim â dychmygu byw â ffordd mor orchfygol a chyfyngol o feddwl eto. Ond yn dawel bach, rwy'n ymwybodol pa mor hawdd yw syrthio nôl, ac rwy'n gwybod bod rhagor o dyfu o mlaen i - ond mae hynny'n rhywbeth sy'n fy nghyffroi erbyn hyn. Wrth edrych nôl, nid oedd fy adferiad yn dilyn unrhyw fath o linell syth. Mater o i fyny ac i lawr a dros y lle i gyd oedd hi! Ac fe ddechreuodd y peth pan rannais i'r profiad ag eraill. Ond mae hi'n beth personol i mi.
Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i unrhyw un sy'n mynd trwy rywbeth tebyg neu sydd â chydweithiwr, ffrind neu berthynas sy'n mynd trwy'r peth?
Os oes unrhyw un sy'n teimlo bod beth ddigwyddodd i mi’n taro tant, hyd yn oed ychydig bach, gyda chi – bydden i'n eich annog i ddarllen rhagor am y peth a siarad â rhywun am eich teimladau. Dim ots ai ffrind, partner, rhywun proffesiynol, neu hyd yn oed llinell gymorth ddi-enw yw hi. Mae anhwylderau iechyd meddwl yn bwydo ar gyfrinachau ac mae hi mor bwysig eich bod chi'n cydnabod beth sy'n digwydd er mwyn cael y cymorth angenrheidiol – a chofiwch nad ydych ar eich pen eich hun ac nad ydych yn faich ar neb! Rwy'n aml yn difaru'r holl amser, egni a photensial rydw i wedi ei golli o fod yn rwym wrth yr anhwylder yma a'r ffaith nad oeddwn i wedi cael agoriad llygaid yn fwy buan o lawer. Bydden i ddim yn dymuno'r peth ar neb – mae bywyd yn rhy fyr.