Enw: Gareth Harris

Swydd: Rheolwr Technegol Rheoliadau Dŵr

Ym mha faes o'r busnes wyt ti'n gweithio: Peirianneg Dŵr

Rho drosolwg o dy rôl a beth mae'n ei olygu:  Mae fy rôl yn cynnwys rheoli tîm bach yn swyddfa'r Swyddogion Datrys ar ran Cwsmeriaid. Criw o swyddogion a thechnegwyr ydyn nhw sy'n cynorthwyo tîm o gydweithwyr allan yn y maes. Mae fy nhîm yn amserlennu gwaith ar gyfer y swyddogion allan yn y maes, ac yn prosesu hysbysiadau am waith a gynigir. Yn ogystal, mae'r tîm yn cynnig cyngor ac arweiniad i gydweithwyr mewnol a rhanddeiliaid a chwsmeriaid allanol.

Ers faint wyt ti wedi bod yn gweithio yma? Bron i 12 mis (fe ddechreuais i ar 1 Ebrill 2019).

 

Beth wyt ti'n ei fwynhau'r mwyaf am dy rôl?

Mae fy rôl yn fy ngalluogi i ryngweithio â phob math o wahanol bobl yn fewnol o fewn Dŵr Cymru ac yn allanol i'r busnes. Rydw i wedi fy ffeindio fy hun yn gweithio gyda chydweithwyr o'r adrannau cynhyrchu dŵr, dosbarthu dŵr, ansawdd dŵr a chyfreithiol, ac mae pawb rydw i wedi gweithio gyda nhw'n gyfeillgar ac yn barod eu cymwynas.

 

Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried gweithio dros Ddŵr Cymru?

Mae gweithio dros Ddŵr Cymru'n rhoi baich gwaith amrywiol i ti, hyd yn oed wrth weithio o fewn dy adran dy hun, oherwydd maint a natur y busnes. Mae'r pecyn buddion yn wych, ac mae Dŵr Cymru'n frwd iawn dros bethau fel iechyd a diogelwch, ymgysylltu gweithwyr a lles gweithwyr. Rwy'n gallu gweld bod yna gyfleoedd i symud o gwmpas y busnes a symud ymlaen i rolau uwch i bobl sy'n awyddus i ddysgu ac i symud o gwmpas.