Hygyrchedd
Hygyrchedd

Rhaglen Datblygu Graddedigion Technegol

Nod y Rhaglen Datblygu Technegol yw cynyddu eich gallu technegol trwy gydol eich dwy flynedd ar y rhaglen. Bydd hyn yn caniatáu i chi gychwyn rôl dechnegol allweddol yn y busnes ar ôl i chi gwblhau’r rhaglen graddedigion.

Mae'r trywydd hwn yn cynnig cyfle rhagorol i gyrchu cyfleoedd hyfforddiant technegol helaeth trwy ddilyn cyrsiau hyfforddi allanol a hyfforddiant mewn swydd. Mae yna gyfle hefyd i ddatblygu'ch sgiliau meddal ar hyd y ffordd. Dyma'r llwybr i chi os oes gennych ddiddordeb brwd mewn cymryd rôl dechnegol ar ôl graddio, a'ch bod am gydgyfnerthu'r sgiliau rydych chi wedi eu dysgu yn y brifysgol, a'u datblygu ymhellach. Byddwch chi'n dysgu gan bobl brofiadol o fewn y busnes trwy weithio gyda nhw ar brosiectau allweddol trwy gydol eich cyfnod ar y rhaglen.

Mae ein graddedigion technegol wedi gweithio ar y prosiectau cyffrous canlynol:

  • Uwchraddio offer i wella'r data sy'n cael ei anfon nôl i'n canolfan larymau (Hyb Deallus).
  • Diweddaru'r wybodaeth sy'n gweithredu'r falf sy'n rheoleiddio llif dŵr i mewn i gronfa ddŵr
  • Datblygu gwefan gan ddefnyddio C# i weithredu fel catalog, gan gofnodi gwybodaeth adroddiadau BI.
  • Defnyddio Power BI i greu dangosfwrdd ar gyfer maes busnes sy'n gofyn am liflinio nifer fwy o adroddiadau a'u diweddaru'n wythnosol yn awtomatig.

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o raglenni datblygu technegol, gan gynnwys Peirianneg Trydanol, Peirianneg Rheoli, Gwyddorau Data, Peirianneg Data, Economeg a Rheoleiddio Cyllid.

Mae'r rhaglen dechnegol yn cynnwys y cyfleoedd hyfforddiant a datblygu canlynol:

Hyfforddiant hyfedredd technegol sydd wedi ei deilwra at eich maes arbenigedd. Er enghraifft, mae ein graddedigion Peirianneg Rheoli yn dilyn y gweithdai canlynol:

  • Siemens PLC
  • Siemens HM1L
  • Rhwydweithio Siemens
  • Profibus
  • Technegydd Ardystiedig Mitsubishi
  • Prism Scada

Hyfforddiant yn y sgiliau meddal – byddwch chi'n cymryd rhan mewn nifer o weithdai sgiliau meddal yn ystod eich amser ar y rhaglen. Mae hyn yn cynnwys y gweithdai canlynol:

  • Sgiliau Cyflwyno
  • Gwaith Tîm Effeithiol
  • Dycnwch
  • Brandio Personol
  • Rheoli Amser
  • Gwregys Melyn Lean
  • Datrys Problemau
  • Rheoli Sgyrsiau Anodd
  • Rheoli Prosiectau

Ffora'r Rheolwr Gyfarwyddwr – cewch wahoddiad i gymryd rhan mewn ffora bord gron chwarterol gyda rheolwyr gyfarwyddwyr ein maes busnes. Yma cewch gyfle i drafod datblygiadau a strategaethau allweddol y busnes, a chewch gyfle i ofyn cwestiynau hefyd.

Cyfleoedd datblygu tîm a chodi arian - cewch chi'r cyfle i weithio ar brosiectau codi arian a threfnu achlysuron gyda'ch cyd-raddedigion. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau rhyngbersonol ac arwain.

Prosiectau strwythuredig – cewch gyfle i weithio ar brosiectau busnes allweddol gyda chamau penodol i'w cyflawni. Bydd y prosiectau hyn yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu profiad sylweddol a fydd yn cyfoethogi eich CV.

Mae ein rhaglenni ar agor nawr ar gyfer ceisiadau, ewch i'n tudalen swyddi i gael mwy o wybodaeth.