Graddedigion

Graddedigion! Am ddysgu rhagor am fywyd gyda Dŵr Cymru?

 

Os ydych chi’n ystyried ymuno â rhaglen graddedigion arobryn Dŵr Cymru, mae gennym ni’r union achlysur i chi.

 

Dydd Mercher, 13 Rhagfyr am 12:30pm, byddwn ni’n cynnal sesiwn 30 munud ar lein trwy Microsoft Teams lle cewch ddysgu rhagor am ein rhaglen graddedigion, cwrdd ag aelodau o’r tîm a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Diddordeb? Cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflen hon a byddwn ni’n anfon gwahoddiad i’r cyfarfod atoch dros yr wythnosau nesaf.

Hygyrchedd
Hygyrchedd

Ein Cynlluniau

 

Rydyn ni’n chwilio am unigolion arloesol, brwdfrydig, uchelgeisiol ac yn fwy na dim, dawnus, sy’n awyddus i fod yn arweinwyr y dyfodol.

 

Mae ein Rhaglen Datblygu Graddedigion yn symud yn gyflym, felly ni fydd byth dau ddiwrnod yr un fath. Bydd yn darparu amgylchedd dysgu diogel ond ymestynnol i ddatblygu eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, gan gywreinio a datblygu eich medrau arwain a rheoli naturiol.

Mae denu unigolion sydd am fod yn arweinwyr y dyfodol yn allweddol er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwneud mwy na dim ond darparu gwasanaeth gwych heddiw, ond ein bod ni’n parhau i wneud hynny am genedlaethau i ddod.

Mae gennym nifer o gyfleoedd ar gyfer mathau penodol o radd, sef ein Rhaglenni Graddedigion Technegol. Mae’r rhain yn gallu cynnwys (ymhlith pethau eraill) rhaglenni ym maes y Gwyddorau Data, TG a Pheirianneg, sydd â’r nod o ddatblygu eich sgiliau technegol, yn hytrach na sgiliau rheoli.

 

 

Beth i’w ddisgwyl fel un o Raddedigion Dŵr Cymru.

Rhaglen gyson a phroffesiynol ar gyfer graddedigion

Rhwydwaith cymorth dibynadwy sydd ar gael trwy gydol dwy flynedd y rhaglen

Y cyfle i ennill profiad mewn pedwar maes busnes gwahanol – gan gwblhau pedwar lleoliad chwe mis o hyd

Darperir gweithdai a sesiynau penodol ar gyfer graddedigion – wedi eu targedu i ddatblygu eich sgiliau arwain a hyder

Mentor, sydd wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu i fod yn arweinydd y dyfodol, ac i ddarparu cymorth a chyngor

Sesiynau a hyfforddiant cwmni eang (mewnol ac allanol), sy’n gallu amrywio o sesiynau gwybodaeth i sesiynau datblygu gyrfa

Y cyfle i arwain a chymryd rhan mewn prosiectau penodol i raddedigion

Y gallu i ennill achrediad ar ddiwedd eich rhaglen.

 

MAE EIN RHAGLENNI DWY FLYNEDD I RADDEDIGION YN DECHRAU YN YSTOD WYTHNOS GYNTAF MEDI BOB BLWYDDYN FEL RHEOL.

Beth fydd ei hangen arnoch i ymgeisio ar gyfer ein rhaglen graddedigion:

 

  • Disgwyliad i gyflawni neu eisoes wedi cyflawni gradd 2:2 neu’n uwch mewn pwnc STEM (bydd rhagor o fanylion yn yr hysbysebion unigol)
  • Angerdd amlwg dros y diwydiant dŵr
  • Llwyddiannau allgwricwlaidd clir
  • Cymhwyster i fyw a gweithio yn y DU
  • Trwydded yrru gyflawn a dilys a defnydd o gerbyd annibynnol –
  • lle bo angen
  • Y parodrwydd i symud i unrhyw le yng Nghymru ac agwedd hyblyg at deithio

 

Mae gan bob un o’n rhaglenni i raddedigion ei ofynion ei hun o ran pynciau gradd.

Ewch i’n tudalen hysbysebion swyddi byw a theipiwch y gair ‘graddedigion’ i’r blwch allweddair chwilio.  Oddi yma, cewch ddewis y swydd sydd orau i chi a darllen y wybodaeth ddiweddaraf am gymhwyster.

 

Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin

Dyma rai o nodweddion allweddol ein rhaglen y gallwch edrych ymlaen atynt:

 

  • Lleoliadau chwe mis o hyd
  • Rhaglen o hyfforddiant strwythuredig sy’n cynnwys datblygu prosiectau a rheoli
  • Cymorth mentora 
  • Cyfleoedd i rwydweithio a datblygu

 

O’r diwrnod cyntaf un, byddwch chi’n cyfrannu at fentrau a fydd yn cyfoethogi eich sgiliau rheoli. Byddwn ni’n rhoi’r cyfle i chi ddatblygu a llwyddo, ac rydyn ni am i chi fanteisio i’r eithaf ar bob cyfle. Mae hynny’n golygu cymryd cyfrifoldeb personol dros wneud cyfraniad gwirioneddol a gweledol at y busnes ac at eich gyrfa eich hun.

Y cyflog cychwynnol ar gyfer ein holl gyfleoedd i raddedigion yw £28,105.00*

*Cywir ym Mehefin 2023