Hygyrchedd
Hygyrchedd

Pwy ydym ni

Am Ddŵr Cymru

Ry'n ni'n cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd trwy ddarparu cyflenwadau diogel a dibynadwy o ddŵr, a thrwy fynd â’u dŵr gwastraff i ffwrdd i'w lanhau cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd prydferth. Ry'n ni'n gwasanaethu cwsmeriaid ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a chymunedau'r Gororau.

 

Ry'n ni'n wahanol

Mae Dŵr Cymru'n wahanol i bob cwmni dŵr ac ynni arall.  Does dim cyfranddeiliaid gyda ni. Mae hyn yn golygu'n bod ni'n gallu cadw biliau'n isel, ac ail-fuddsoddi pob un geiniog a wnawn i ofalu am eich dŵr a'ch amgylchedd prydferth - nawr, ac am flynyddoedd mawr i ddod. Ry'n ni'n credu ei bod hi'n ffordd well o lawer o wneud pethau.  Wedi'r cyfan, ychydig iawn sy’n bwysicach i chi na dŵr glân a diogel.

Ein tîm

Mae pob un o'n 3,000 o gydweithwyr yn hanfodol wrth gadw 3 miliwn o bobl yn iach.

Mae pob un ohonom yn chwarae ein rhan wrth gael dŵr i dapiau ein cwsmeriaid. O'n hymgynghorwyr profiadau cwsmeriaid sy'n helpu cwsmeriaid gyda'u biliau, i weithredwyr y carthffosydd sy'n clirio ein pibellau.

Mae ein gwyddonwyr yn cyflawni cannoedd o filoedd o brofion ar ein dŵr bob blwyddyn, ac mae ein peirianwyr yn casglu dŵr ac yn ei ddanfon trwy filoedd o filltiroedd o bibellau i gyrraedd tapiau ein cwsmeriaid.

Dim ots a ydych chi'n gweithio yn y rheng flaen, neu'n cynorthwyo cydweithwyr yn y cefndir, rydych chi'n rhan annatod o'r tîm sy'n darparu gwasanaeth hanfodol ar gyfer cwsmeriaid.