Prentis Offeryniaeth, Rheoli ac Awtomeiddio (ICA)

Yn rhan o’ch datblygiad, bydd yna gymysgedd o ddysgu ymarferol a dysgu’n seiliedig ar theori. Bydd disgwyl i chi fynychu’r coleg dros gyfnod o 4 blynedd i gyflawni BTEC ac NVQ mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg cyn symud ymlaen i astudio ar gyfer HNC. Yn ogystal â hyn, fe gewch hyfforddiant penodol yn y rôl i gyd-fynd â’ch astudiaethau academaidd. Yn dibynnu ar eich lleoliad, mae’n bosibl y bydd yna ddisgwyliad i chi deithio i’r coleg.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu

  

  • Cyflawni gwaith cynnal-a-chadw cynlluniedig ar weithfeydd ICA, gwneud penderfyniadau ar dasgau a’u hamledd er mwyn taro cydbwysedd rhwng archwiliadau rheolaidd nifer y diffygion.
  • Ymateb i fethiannau ar amrywiaeth eang iawn o beiriannau ICA, asesu problemau, penderfynu sut i weithredu, caffael darnau newydd a chyflawni gwaith trwsio fel y bo angen. 
  • Argymell newidiadau o ran dyluniad os oes angen er mwyn sicrhau bod y peiriannau’n parhau i weithio’n effeithlon ac yn effeithiol er mwyn cynnal lefelau gwasanaeth.

Hyd y rhaglen fydd 4 blynedd. Ar gyfer y rôl yma, bydd angen o leiaf gradd B mewn TGAU Mathemateg ac C mewn TGAU Saesneg neu Wyddoniaeth (neu gymhwyster cyfatebol).