Y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl ag Anableddau

Mae'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl ag Anableddau yn disgyn ar 3 Rhagfyr bob blwyddyn, â'i nod o hybu grymusiad, a helpu i greu cyfleoedd go iawn ar gyfer pobl ag anableddau

 

Wyddech chi?

  • Fod rhyw fath o nam ar un oedolyn ym mhob tri yn y DU
  • Dim ond 25% o bobl sy'n anabl sy'n ystyried eu bod yn 'anabl'
  • Mae 1 person anabl mewn 4 yn dweud eu bod wedi cael eu trin yn annheg, neu eu bod wedi dioddef bwlio ac aflonyddu yn y gwaith
  • Mae 10% o bobl y DU dyslecsia
  • Mae gan 6% o oedolion y DU nam ar eu golwg
  • Mae gan 6% o oedolion y DU nam ar eu clyw

Dyma fideo a grëwyd gan Valuable500. Fe ddywedon nhw: “Amrywiaeth: rydyn ni wedi ei hoelio hi on'd ydyn? Ond arhoswch funud… On'd ydyn ni wedi anghofio am 1.3 biliwn o bobl anabl?”

 

 

 

Rydyn ni am eich cyflwyno i Rebecca, sy'n Dechnegydd Cymorth Rheoli Risg yn y tîm Asedau Dŵr.  Ymgeisiodd Rebecca i fod yn un o'n Cenhadon Cynwysoldeb, ac fe ofynnon ni ambell i gwestiwn iddi i ddod i'w hadnabod yn well. 

 

 

 

Pam wnest ti gais i fod yn gennad?

Ers ymuno â Dŵr Cymru, rydw i wedi cael diagnosis o anhwylder niwrolegol cynyddol, sydd wedi agor fy llygaid i'r rhwystrau y gall pobl anabl eu hwynebu yn y gwaith a'r tu hwnt. Nid yw llawer o'r rhain yn amlwg i'r mwyafrif o bobl. 

Beth wyt ti am ei gyflawni trwy fod yn gennad?

Rydw i am fod yn gallu cefnogi unrhyw un arall sy'n wynebu sefyllfa debyg, a helpu i addysgu'r busnes a'm cydweithwyr er mwyn cynyddu mynediad cyfartal.  Rwy'n meddwl bod Dŵr Cymru'n lle gwych i weithio'n barod, ond mae yna lawer mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod pawb yn cael cyfleoedd cyfartal, ac nad oes unrhyw rwystrau yn eu hatal rhag llwyddo. Rwy'n credu y dylem ni fel cwmni adlewyrchu'r sylfaen amrywiol o gwsmeriaid rydym yn eu cyflenwi.

Sut mae dy anhwylder yn effeithio arnat ti o ddydd i ddydd?

Mae fy Atacsia yn effeithio ar fy nghydbwysedd a chydsymud yn bennaf, sy'n gwneud cerdded a grisiau'n anodd, ac mae gen i dueddiad i ddisgyn. Alla'i ddim â chynnig paned i bobl yn y swyddfa fel pawb arall, am y byddai cwpan gwag ganddyn nhw i gyd cyn i mi gyrraedd nôl!  Mae'n dechrau effeithio ar fy lleferydd, ac mae'n gallu gwneud i mi deimlo'n hunanymwybodol wrth siarad â phobl newydd. Ond rwy'n dysgu i addasu sut rwy'n gwneud pethau ac mae pawb o'm cwmpas yn wych am gynnig cymorth pan fo angen.