Ers faint wyt ti wedi bod yn gweithio yma?
Bron i ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw rydw i wedi cyflawni sawl rôl wahanol ar draws amrywiaeth o adrannau. Fe ddechreuais i yn y ganolfan gysylltu am filiau cyn symud i'r tîm cwsmeriaid bregus, wedyn es i ymlaen i'r adran gyfathrebu cyn symud i mewn i'r Gynghrair Cyflawni Cyfalaf. A dyma fi yn Diogelwch Argaeau, sy'n rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi ei ddisgwyl, ond tîm yw hwn sy'n darparu atebion peirianegol arloesol ac rydw i wrth fy modd i fod yn aelod ohono.
Beth wyt ti'n ei fwynhau'r mwyaf am dy rôl?
Rwy'n ffodus fy mod i'n cael mynd allan ar y safle'n rheolaidd i ymweld â'n hargaeau a'n cronfeydd dŵr, a thrwy hynny, rwy'n cael mwynhau rhai o olygfeydd mwyaf bendigedig Cymru - mae'n wych ar gyfer Instagram. Efallai ei bod hi'n swnio fel ystrydeb, ond dyw dau ddiwrnod byth yr un fath â’i gilydd. Mae fy rôl yn un ymestynnol ac mae cyfrifoldeb sylweddol gen i, ond mae hi'n werth chweil. Rydw i wir yn edrych ymlaen at beth a ddaw bob dydd.
Beth fyddetti'n ei ddweud wrth unrhywun sy'n ystyried gweithio dros?
Ddŵr Cymru? Pamoedi?! Mae hi'n gwmni amrywiol iawn acmae ganddo gymaint i'w gynnig - mae rhywbeth yma i bawb. Rwy'n falch o gael gweithio dros sefydliad nid-er-elw sy'n rhoi gymaint nôl i'n cymunedau. Mae'r ffaith fod ein Prif Weithredwr wedi dechrau fel prentis yn dweud y cyfan, mae yna gyfleoedd di-ri am dwf personol a phroffesiynol.