Enw: Jodie Evans

Swydd: Recriwtiwr Mewnol

Maes Busnes: Talent, AD

Rho drosolwg o dy rôl a beth mae'n ei olygu: Cynorthwyo'r busnes i ddenu a chyflogi'r bobl fwyaf dawnus ar draws ein hadrannau corfforaethol gan gynnwys ITS, Data, Caffael, Masnachol, Cyfreithiol ac Ansawdd Dŵr Yfed. Rwy'n gweithio hefyd ar recriwtio ein graddedigion ar gyfer 2021, sy'n broses hynod o werth chweil.

Pa mor hir wyt ti wedi bod gyda Dŵr Cymru: 15 mis!

 

Beth wyt ti'n ei fwynhau'r mwyaf am dy rôl?

Cyfathrebu ag amrywiaeth mor eang o randdeiliaid mewnol ac allanol o ddydd i ddydd, chwilio am dalent, cyfweld, a chroesawu gweithwyr newydd i'r cwmni.

 

Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried gweithio dros Ddŵr Cymru?

Bydden i'n dweud y byddwch chi'n cwrdd â'r criw mwyaf bendigedig o bobl o bob cefndir sy'n wirioneddol ymroddgar i'w gwaith.