Beth wyt ti wedi ei fwynhau'r mwyaf am raglen graddedigionDŵr Cymru?
Gweithio ar brosiectausy'n cael effaith! Er enghraifft, yn ystod fy ail leoliad gyda'rtîm Strategaeth Cwsmeriaid, y ffocws oedd cydweithio'n agos â'r Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid(ICS)i ennill ailachrediadi’r cwmni am ein gwasanaethrhagorol i gwsmeriaid. Roedden ni’n gwneud hyn trwy gyflawni arolygon o gydweithwyr a chwsmeriaidtrwy'rICS, ac roedd hyn yn bwysig wrth glustnodi meysydd lle mae'r cwmni'n perfformio'n dda, a'rrhai lle mae angengwella.
Beth fyddetti'n ei ddweud wrth unrhywun sy'n ystyried ymgeisio ar gyfer y rhaglen?
Byddwn i'n annog y bobl hynny sy'n ystyried ymgeisioi'r rhaglen fod â meddwl agored. Hyd yn oed os nad ydych chi'n credu bod gennych chi rai o’r cymwysterausydd eu hangeni weithio mewn maes penodol, mae'r cwmni'n cynnig amrywiaetheang iawn o gyfleoedd i gyflawni swyddi a phrosiectaua sydd at eich dant. Mae cadw meddwl agoredam unrhyw beth yn y gweithle'ngwneud y peth yn fwy pleserus hefyd. Mae hyn yn gweithio ochr yn ochr â bod yn rhagweithiol. Ar ôl bod gyda'r cwmni ers dros flwyddyn, rwy'n sylweddoli bod unrhyw beth yn bosibl, a bod cadwmeddwl agoredyn bwysig ar gyfer datblygiad personol.
Os oes yna rywbeth nad ydych chi'n ei fwynhau, trafodwch y peth a ffeindiwch bethau eraill rydych chi yn eu mwynhau yn fwy/sy'n eich siwtiochi – mae digonedd o gyfleoedd i’w cael o fewn y cwmni! Os oes unrhywstraeon, hobïau,manylion cefndir ac atigennych i'wrhannu,byddai'n dda cael clywed amdanynt. Ar hyn o bryd, mae fy mywyd ychydig bach yn ddiflas oherwydd Covid-19! Rwy'n dod o gefndir amaethyddol ac rydw i wedi bod yn treulio llawer o amser adref ar y fferm. Cymraeg yw fy iaith gyntafwedyn Almaeneg – fe ddysgaisi Saesneg trwywrando ar fy rhieni'n sgwrsiopan oeddwn i'n blentyn. Mae fy hobïau’n cynnwys mynd i'r gampfa, canu'r delyn a'r piano, a darllen!