Prentis Technegydd Cynnal-a-chadw

Elfen allweddol o’r rôl yma fydd gwaith cynnal-a-chadw cynlluniedig ar holl asedau Dŵr Cymru, gan gynnwys gweithfeydd trin dŵr neu ddŵr gwastraff, gorsafoedd trin dŵr neu garthffosiaeth a gorlifoedd storm cyfunol.

 

Yn rhan o’ch datblygiad, bydd yna gymysgedd o ddysgu ymarferol a dysgu’n seiliedig ar theori. Bydd disgwyl i chi fynychu’r coleg dros gyfnod o 4 blynedd i gyflawni BTEC ac NVQ mewn Gweithrediadau Peirianegol. Yn ogystal â hyn, cewch hyfforddiant technegol sy’n ymwneud yn benodol â’r rôl i gyd-fynd â’ch astudiaethau academaidd. Yn dibynnu ar eich lleoliad, gallai fod yna ddisgwyliad i chi deithio i’r coleg.

 

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu

 

  • Cyflawni gwaith cynnal-a-chadw ar ein hoffer er mwyn lleihau’r risg iddynt fethu.
  • Canfod pam nad yw ein hoffer yn gweithio weithiau, a’i drwsio mewn ffordd effeithlon cyn gynted â phosibl.
  • Cyflawni archwiliadau, gosodiadau tebyg am debyg, profion, gwaith adfer a helpu i gomisiynu offer pan fo angen.
  • Darllen a dehongli darluniau peirianegol o wahanol ddarnau o offer er mwyn sicrhau y cynhelir y goddefiant a’r gosodiadau cywir er mwyn gweithredu’r peiriannau’n effeithlon.
  •  

Hyd y rhaglen fydd 4 blynedd. Ar gyfer y rôl yma, bydd angen o leiaf B mewn TGAU Mathemateg ac C mewn TGAU Saesneg neu Wyddoniaeth (neu gymhwyster cyfatebol).