Enw: Nic Hooper

Swydd: Swyddog Graddedig Awtomeiddio, Telemetreg a Dadansoddi Rheoli

Ym mha faes o'r busnes wyt ti'n gweithio: Adran ATC y gogledd

Rho drosolwg o dy rôl a beth mae'n ei olygu: Rwy'n cynorthwyo cydweithwyr i gynnal a gosod dyfeisiau deallus sy'n caniatáu ar gyfer cysylltu ein safleoedd a'u rheoli o bell. Mae hi'n waith technegol ac ymarferol iawn lle mae llawer i'w ddysgu ac mae yna waith i'w wneud bob amser o gwmpas y busnes.

Ers faint wyt ti wedi bod yn gweithio yma? 6 mis.

 

Beth wyt ti'n ei fwynhau'r mwyaf am dy rôl?

Rydw i wir yn mwynhau cael teithio o gwmpas Cymru a chael gweld safleoedd newydd. Mae adran ATC y gogledd yn cwmpasu ardal helaeth o Gaer i'r Borth, felly mae yna ddigonedd o lefydd i'w gweld. Rydw i wir yn mwynhau dysgu sgiliau technegol hefyd, rhai ymarferol neu'n seiliedig ar feddalwedd.

 

Beth fyddet ti'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried gweithio dros Ddŵr Cymru?

Ewch amdani! Mae Dŵr Cymru'n lle gwych i weithio ac mae yna ddigonedd o gyfleoedd i dyfu a datblygu yn eich gyrfa. Peidiwch ag oedi dim chwaith os nad yw'ch cefndir yn cyd-fynd yn unol â'r rôl rydych am ymgeisio amdani. Nid oedd fy ngradd yn cyd-fynd yn union â'r rôl, ond cefais i'r swydd ac rwy'n dysgu wrth weithio!